1
Hebreaid 10:25
beibl.net 2015, 2024
Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio’n gilydd drwy’r adeg; yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan.
Cymharu
Archwiliwch Hebreaid 10:25
2
Hebreaid 10:24
A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.
Archwiliwch Hebreaid 10:24
3
Hebreaid 10:23
Felly gadewch i ni ddal gafael yn y gobaith dŷn ni’n ddweud sydd gynnon ni. Mae Duw yn siŵr o wneud beth mae wedi’i addo!
Archwiliwch Hebreaid 10:23
4
Hebreaid 10:36
Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi’i addo i chi!
Archwiliwch Hebreaid 10:36
5
Hebreaid 10:22
Felly gadewch i ni glosio at Dduw gyda hyder didwyll, a’i drystio fe’n llwyr. Mae’n cydwybod euog ni wedi’i glanhau drwy i’w waed gael ei daenellu arnon ni, a dŷn ni wedi’n golchi â dŵr glân.
Archwiliwch Hebreaid 10:22
6
Hebreaid 10:35
Felly peidiwch taflu’r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn!
Archwiliwch Hebreaid 10:35
7
Hebreaid 10:26-27
Os ydyn ni’n penderfynu dal ati i bechu ar ôl dod i wybod y gwirionedd, does dim aberth sy’n gallu delio gyda’n pechod ni wedyn. Allwn ni ond disgwyl yn ofnus am farn Duw a’r tân eirias fydd yn dinistrio gelynion Duw.
Archwiliwch Hebreaid 10:26-27
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos