Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno:
ysbryd doethineb rhyfeddol,
ysbryd strategaeth sicr,
ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD.
Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i’r ARGLWYDD:
fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf,
nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.