Bydda i’n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’
ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’
Tyrd â’m meibion i o wledydd pell,
a’m merched o ben draw’r byd –
pawb sydd â’m henw i arnyn nhw,
ac wedi’u creu i ddangos fy ysblander i.
Ie, fi wnaeth eu siapio a’u gwneud nhw.