1
Eseia 45:3
beibl.net 2015, 2024
Dw i’n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch, stôr o gyfoeth wedi’i guddio o’r golwg – er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD, Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 45:3
2
Eseia 45:2
“Dw i’n mynd o dy flaen di i fwrw waliau dinasoedd i lawr, dryllio drysau pres a thorri’r barrau haearn.
Archwiliwch Eseia 45:2
3
Eseia 45:5-6
Fi ydy’r ARGLWYDD a does dim un arall; does dim duw ar wahân i mi. Dw i’n mynd i dy arfogi di, er nad wyt ti’n fy nabod. Dw i eisiau i bawb, o’r dwyrain i’r gorllewin, wybod fod neb arall ond fi. Fi ydy’r ARGLWYDD a does dim un arall.
Archwiliwch Eseia 45:5-6
4
Eseia 45:7
Fi sy’n rhoi golau, ac yn creu twyllwch, yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl – Fi, yr ARGLWYDD, sy’n gwneud y cwbl.
Archwiliwch Eseia 45:7
5
Eseia 45:22
Dewch o ben draw’r byd; trowch ata i i gael eich achub! Achos fi ydy Duw, a does dim un arall.
Archwiliwch Eseia 45:22
6
Eseia 45:1
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi’i eneinio, yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o’i flaen a diarfogi brenhinoedd, yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau
Archwiliwch Eseia 45:1
7
Eseia 45:23
Dw i wedi mynd ar fy llw, dw i’n dweud y gwir, fydda i’n cymryd dim yn ôl: ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn tyngu i mi!
Archwiliwch Eseia 45:23
8
Eseia 45:4
Dw i wedi dy alw di wrth dy enw er mwyn fy ngwas Jacob, ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi’i ddewis. Dw i’n mynd i roi teitl i ti, er nad wyt ti’n fy nabod.
Archwiliwch Eseia 45:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos