Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Ddylai pobl glyfar ddim brolio’u clyfrwch,
na’r pwerus eu bod nhw’n bobl bwerus;
a ddylai pobl gyfoethog ddim brolio’u cyfoeth.
Dim ond un peth ddylai pobl frolio amdano:
eu bod nhw yn fy nabod i, ac wedi deall
mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n llawn cariad,
yn deg, ac yn gwneud beth sy’n iawn ar y ddaear.
A dw i eisiau i bobl wneud yr un fath.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.