1
Ioan 10:10
beibl.net 2015, 2024
Mae’r lleidr yn dod gyda’r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 10:10
2
Ioan 10:11
“Fi ydy’r bugail da. Mae’r bugail da yn fodlon marw dros y defaid.
Archwiliwch Ioan 10:11
3
Ioan 10:27
Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i’n eu nabod nhw.
Archwiliwch Ioan 10:27
4
Ioan 10:28
Dw i’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i.
Archwiliwch Ioan 10:28
5
Ioan 10:9
Fi ydy’r giât. Bydd y rhai sy’n mynd i mewn trwof fi yn saff. Byddan nhw’n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa.
Archwiliwch Ioan 10:9
6
Ioan 10:14
“Fi ydy’r bugail da. Dw i’n nabod fy nefaid fy hun ac maen nhw’n fy nabod i
Archwiliwch Ioan 10:14
7
Ioan 10:29-30
Fy Nhad sydd wedi’u rhoi nhw i mi, ac mae e’n fwy na phawb a phopeth. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad. Dw i a’r Tad yn un.”
Archwiliwch Ioan 10:29-30
8
Ioan 10:15
yn union fel mae’r Tad yn fy nabod i a dw i’n nabod y Tad. Dw i’n fodlon marw dros y defaid.
Archwiliwch Ioan 10:15
9
Ioan 10:18
Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy’n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i’r gallu i’w roi a’r gallu i’w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i’w wneud.”
Archwiliwch Ioan 10:18
10
Ioan 10:7
Felly dwedodd Iesu eto, “Credwch chi fi – fi ydy’r giât i’r defaid fynd drwyddi.
Archwiliwch Ioan 10:7
11
Ioan 10:12
Mae’r gwas sy’n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae’n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy’r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun.) Mae’n gadael y defaid, ac mae’r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.
Archwiliwch Ioan 10:12
12
Ioan 10:1
“Credwch chi fi, lleidr ydy’r un sy’n dringo i mewn i gorlan y defaid heb fynd drwy’r giât.
Archwiliwch Ioan 10:1
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos