Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a’r disgybl oedd Iesu’n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,” ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai’n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda’r disgybl hwnnw.