1
Ioan 5:24
beibl.net 2015, 2024
“Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy’n gwrando ar beth dw i’n ddweud ac yn credu’r un wnaeth fy anfon i. Dŷn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 5:24
2
Ioan 5:6
Gwelodd Iesu e’n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
Archwiliwch Ioan 5:6
3
Ioan 5:39-40
Dych chi’n astudio’r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae’r ysgrifau hynny, ond dych chi’n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!
Archwiliwch Ioan 5:39-40
4
Ioan 5:8-9
Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.” A dyma’r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon
Archwiliwch Ioan 5:8-9
5
Ioan 5:19
Dyma ddwedodd Iesu wrthyn nhw: “Credwch chi fi, dydy’r Mab ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ohono’i hun; dim ond beth mae’n gweld ei Dad yn ei wneud. Dw i, y Mab, yn gwneud yn union beth mae’r Tad yn ei wneud.
Archwiliwch Ioan 5:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos