1
Luc 17:19
beibl.net 2015, 2024
Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”
Cymharu
Archwiliwch Luc 17:19
2
Luc 17:4
Hyd yn oed petai’n pechu yn dy erbyn saith gwaith y dydd, ond yn dod yn ôl bob tro ac yn gofyn am faddeuant, rhaid i ti faddau.”
Archwiliwch Luc 17:4
3
Luc 17:15-16
Dyma un ohonyn nhw’n troi’n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi’n uchel, “Clod i Dduw!” Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi’i wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn.)
Archwiliwch Luc 17:15-16
4
Luc 17:3
Felly gwyliwch eich hunain! Os ydy rhywun arall sy’n credu ynof fi yn pechu, rhaid i ti ei geryddu; ond pan mae’n edifar ac yn troi cefn ar ei bechod, rhaid i ti faddau iddo.
Archwiliwch Luc 17:3
5
Luc 17:17
Meddai Iesu, “Rôn i’n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae’r naw arall?
Archwiliwch Luc 17:17
6
Luc 17:6
Atebodd Iesu, “Petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o’r ddaear wrth ei gwreiddiau a’i thaflu i’r môr, a byddai’n gwneud hynny!
Archwiliwch Luc 17:6
7
Luc 17:33
Bydd y rhai sy’n ceisio achub eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy’n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn.
Archwiliwch Luc 17:33
8
Luc 17:1-2
Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Bydd bob amser bethau’n digwydd sy’n temtio pobl i bechu, ond gwae’r sawl sy’n gwneud y temtio! Byddai’n well i’r person hwnnw gael ei daflu i’r môr gyda maen melin wedi’i rwymo am ei wddf, na gorfod wynebu canlyniadau gwneud i un o’r rhai bach yma bechu.
Archwiliwch Luc 17:1-2
9
Luc 17:26-27
“Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. Wedyn daeth y llifogydd a’u dinistrio nhw i gyd!
Archwiliwch Luc 17:26-27
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos