Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i’r llifogydd ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna’n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.