1
Marc 2:17
beibl.net 2015, 2024
Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Cymharu
Archwiliwch Marc 2:17
2
Marc 2:5
Pan welodd Iesu’r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi’i barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi’u maddau.”
Archwiliwch Marc 2:5
3
Marc 2:27
Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl.
Archwiliwch Marc 2:27
4
Marc 2:4
ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw’n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni.
Archwiliwch Marc 2:4
5
Marc 2:10-11
Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu, a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
Archwiliwch Marc 2:10-11
6
Marc 2:9
Ydy’n haws dweud wrth y dyn ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’?
Archwiliwch Marc 2:9
7
Marc 2:12
A dyna’n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a’r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi’u syfrdanu’n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.
Archwiliwch Marc 2:12
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos