1
Numeri 21:8
beibl.net 2015, 2024
A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Gwna ddelw o neidr, a’i chodi ar bolyn. Wedyn, pan fydd rhywun sydd wedi’i frathu yn edrych arni, bydd yn cael byw.”
Cymharu
Archwiliwch Numeri 21:8
2
Numeri 21:9
A dyma Moses yn gwneud neidr bres a’i chodi ar bolyn. Wedyn os oedd neidr yn brathu rhywun, pan fyddai’r person hwnnw’n edrych ar y neidr bres, byddai’n cael byw.
Archwiliwch Numeri 21:9
3
Numeri 21:5
A dyma nhw’n dechrau cwyno eto, a dweud pethau yn erbyn Duw a Moses. “Pam dych chi wedi dod â ni allan o’r Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does dim bwyd yma, na dŵr, a dŷn ni’n casáu’r stwff diwerth yma!”
Archwiliwch Numeri 21:5
4
Numeri 21:6
Felly dyma’r ARGLWYDD yn anfon nadroedd gwenwynig i’w canol nhw. Cafodd lot o bobl eu brathu, a buon nhw farw.
Archwiliwch Numeri 21:6
5
Numeri 21:7
A dyma’r bobl yn dod at Moses a dweud, “Dŷn ni wedi pechu drwy ddweud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di. Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD yn cymryd y nadroedd yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gweddïo dros y bobl.
Archwiliwch Numeri 21:7
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos