1
Diarhebion 29:25
beibl.net 2015, 2024
Mae bod ag ofn pobl yn drap peryglus, ond mae’r un sy’n trystio’r ARGLWYDD yn saff.
Cymharu
Archwiliwch Diarhebion 29:25
2
Diarhebion 29:18
Heb weledigaeth gan Dduw does dim rheolaeth ar bobl, ond mae’r rhai sy’n cadw’r Gyfraith wedi’u bendithio’n fawr.
Archwiliwch Diarhebion 29:18
3
Diarhebion 29:11
Mae’r ffŵl yn colli ei limpin yn lân, ond mae’r doeth yn rheoli ei dymer.
Archwiliwch Diarhebion 29:11
4
Diarhebion 29:15
Mae gwialen a cherydd yn gwneud plentyn yn ddoeth, ond mae plentyn afreolus yn codi cywilydd ar ei fam.
Archwiliwch Diarhebion 29:15
5
Diarhebion 29:17
Disgybla dy blentyn i fod yn dawel dy feddwl, a bydd bywyd yn bleserus i ti.
Archwiliwch Diarhebion 29:17
6
Diarhebion 29:23
Mae balchder yn arwain i gywilydd, ond bydd person gostyngedig yn cael ei anrhydeddu.
Archwiliwch Diarhebion 29:23
7
Diarhebion 29:22
Mae’r un sy’n fyr ei dymer yn creu helynt, a’r un sy’n gwylltio’n hawdd yn troseddu’n aml.
Archwiliwch Diarhebion 29:22
8
Diarhebion 29:20
Mae mwy o obaith i ffŵl nag i rywun sy’n rhy barod ei dafod.
Archwiliwch Diarhebion 29:20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos