1
Diarhebion 3:5-6
beibl.net 2015, 2024
Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.
Cymharu
Archwiliwch Diarhebion 3:5-6
2
Diarhebion 3:7
Paid meddwl dy fod ti’n glyfar; dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni.
Archwiliwch Diarhebion 3:7
3
Diarhebion 3:9-10
Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu’r ARGLWYDD; rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe. Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn, a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin.
Archwiliwch Diarhebion 3:9-10
4
Diarhebion 3:3
Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon.
Archwiliwch Diarhebion 3:3
5
Diarhebion 3:11-12
Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, na thorri dy galon pan mae e’n dy gywiro di. Achos mae’r ARGLWYDD yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru, fel mae tad yn cosbi’r plentyn mae mor falch ohono.
Archwiliwch Diarhebion 3:11-12
6
Diarhebion 3:1-2
Fy mab, paid anghofio beth dw i’n ei ddysgu i ti; cadw’r pethau dw i’n eu gorchymyn yn dy galon. Byddi’n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da; bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti.
Archwiliwch Diarhebion 3:1-2
7
Diarhebion 3:13-15
Y fath fendith sydd i’r sawl sy’n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall. Mae’n gwneud mwy o elw nag arian, ac yn talu’n ôl lawer mwy nag aur. Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau; does dim trysor tebyg iddi.
Archwiliwch Diarhebion 3:13-15
8
Diarhebion 3:27
Pan fydd gen ti’r cyfle i helpu rhywun, paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw.
Archwiliwch Diarhebion 3:27
9
Diarhebion 3:19
Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear; a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd.
Archwiliwch Diarhebion 3:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos