1
Actau’r Apostolion 4:12
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
Cymharu
Archwiliwch Actau’r Apostolion 4:12
2
Actau’r Apostolion 4:31
Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.
Archwiliwch Actau’r Apostolion 4:31
3
Actau’r Apostolion 4:29
Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder
Archwiliwch Actau’r Apostolion 4:29
4
Actau’r Apostolion 4:11
Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl.
Archwiliwch Actau’r Apostolion 4:11
5
Actau’r Apostolion 4:13
A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a’u hadwaenent, eu bod hwy gyda’r Iesu.
Archwiliwch Actau’r Apostolion 4:13
6
Actau’r Apostolion 4:32
A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a’r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.
Archwiliwch Actau’r Apostolion 4:32
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos