1
1 Cronicl 16:11
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
Cymharu
Archwiliwch 1 Cronicl 16:11
2
1 Cronicl 16:34
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:34
3
1 Cronicl 16:8
Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:8
4
1 Cronicl 16:10
Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:10
5
1 Cronicl 16:12
Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd
Archwiliwch 1 Cronicl 16:12
6
1 Cronicl 16:9
Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:9
7
1 Cronicl 16:25
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:25
8
1 Cronicl 16:29
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:29
9
1 Cronicl 16:27
Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a llawenydd yn ei fangre ef.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:27
10
1 Cronicl 16:23
Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:23
11
1 Cronicl 16:24
Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:24
12
1 Cronicl 16:22
a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi.”
Archwiliwch 1 Cronicl 16:22
13
1 Cronicl 16:26
Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:26
14
1 Cronicl 16:15
Cofiwch ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau
Archwiliwch 1 Cronicl 16:15
15
1 Cronicl 16:31
Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear, a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.”
Archwiliwch 1 Cronicl 16:31
16
1 Cronicl 16:36
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, “Amen”, a moli'r ARGLWYDD.
Archwiliwch 1 Cronicl 16:36
17
1 Cronicl 16:28
Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth
Archwiliwch 1 Cronicl 16:28
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos