1
Colosiaid 3:13
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.
Cymharu
Archwiliwch Colosiaid 3:13
2
Colosiaid 3:2
Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.
Archwiliwch Colosiaid 3:2
3
Colosiaid 3:23
Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall.
Archwiliwch Colosiaid 3:23
4
Colosiaid 3:12
Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.
Archwiliwch Colosiaid 3:12
5
Colosiaid 3:16-17
Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol. Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
Archwiliwch Colosiaid 3:16-17
6
Colosiaid 3:14
Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.
Archwiliwch Colosiaid 3:14
7
Colosiaid 3:1
Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
Archwiliwch Colosiaid 3:1
8
Colosiaid 3:15
Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.
Archwiliwch Colosiaid 3:15
9
Colosiaid 3:5
Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.
Archwiliwch Colosiaid 3:5
10
Colosiaid 3:3
Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.
Archwiliwch Colosiaid 3:3
11
Colosiaid 3:8
Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau.
Archwiliwch Colosiaid 3:8
12
Colosiaid 3:9-10
Peidiwch â dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd â'i gweithredoedd, ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr.
Archwiliwch Colosiaid 3:9-10
13
Colosiaid 3:19
Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, a pheidiwch â bod yn llym wrthynt.
Archwiliwch Colosiaid 3:19
14
Colosiaid 3:20
Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd.
Archwiliwch Colosiaid 3:20
15
Colosiaid 3:18
Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; hyn yw eich dyletswydd fel pobl yr Arglwydd.
Archwiliwch Colosiaid 3:18
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos