1
Deuteronomium 28:1
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Os byddi'n gwrando'n astud ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, ac yn gofalu cadw popeth y mae'n ei orchymyn iti heddiw, yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy osod yn uwch na holl genhedloedd y byd.
Cymharu
Archwiliwch Deuteronomium 28:1
2
Deuteronomium 28:2
Daw'r holl fendithion hyn i'th ran ac i'th amgylchu, dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.
Archwiliwch Deuteronomium 28:2
3
Deuteronomium 28:13
Bydd yr ARGLWYDD yn dy wneud yn ben ac nid yn gynffon, yn uchaf bob amser ac nid yn isaf, dim ond iti wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw i'w cadw a'u gwneud.
Archwiliwch Deuteronomium 28:13
4
Deuteronomium 28:12
Bydd yr ARGLWYDD yn agor y nefoedd, ystordy ei ddaioni, i roi glaw i'th dir yn ei bryd, ac i fendithio holl waith dy ddwylo; byddi'n rhoi benthyg i lawer o genhedloedd, ond heb angen benthyca dy hun.
Archwiliwch Deuteronomium 28:12
5
Deuteronomium 28:7
Bydd yr ARGLWYDD yn peri i'th elynion sy'n codi yn dy erbyn gael eu dryllio o'th flaen; byddant yn dod yn dy erbyn ar hyd un ffordd, ond yn ffoi rhagot ar hyd saith.
Archwiliwch Deuteronomium 28:7
6
Deuteronomium 28:8
Bydd yr ARGLWYDD yn gorchymyn bendith ar dy ysguboriau ac ar bopeth a wnei; bydd yn dy fendithio yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti.
Archwiliwch Deuteronomium 28:8
7
Deuteronomium 28:6
Bydd bendith arnat wrth ddod i mewn ac wrth fynd allan.
Archwiliwch Deuteronomium 28:6
8
Deuteronomium 28:3
Byddi'n derbyn bendith yn y dref ac yn y maes.
Archwiliwch Deuteronomium 28:3
9
Deuteronomium 28:4
Bydd bendith ar ffrwyth dy gorff, ar gnwd dy dir a'th fuches, ar gynnydd dy wartheg ac epil dy ddefaid.
Archwiliwch Deuteronomium 28:4
10
Deuteronomium 28:9
Bydd yr ARGLWYDD yn dy sefydlu'n bobl sanctaidd iddo, fel yr addawodd iti, os cedwi orchmynion yr ARGLWYDD dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd.
Archwiliwch Deuteronomium 28:9
11
Deuteronomium 28:5
Bydd bendith ar dy gawell a'th badell dylino.
Archwiliwch Deuteronomium 28:5
12
Deuteronomium 28:11
Bydd yr ARGLWYDD yn dy lwyddo'n ardderchog yn ffrwyth dy gorff, cynnydd dy fuches, a chnwd dy dir yn y wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'th hynafiaid ei rhoi iti.
Archwiliwch Deuteronomium 28:11
13
Deuteronomium 28:10
Fe wêl holl bobloedd y ddaear mai ar enw'r ARGLWYDD y gelwir di; a bydd dy ofn arnynt.
Archwiliwch Deuteronomium 28:10
14
Deuteronomium 28:14
Paid â gwyro i'r dde na'r chwith oddi wrth yr un o'r pethau yr wyf fi'n eu gorchymyn iti heddiw, na dilyn duwiau estron i'w haddoli.
Archwiliwch Deuteronomium 28:14
15
Deuteronomium 28:15
Ac os na fyddi'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw, i ofalu cyflawni ei holl orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu rhoi iti heddiw, yna fe ddaw i'th ran yr holl felltithion hyn, ac fe'th amgylchant
Archwiliwch Deuteronomium 28:15
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos