1
Hebreaid 1:3
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth â'i air nerthol. Ar ôl iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder
Cymharu
Archwiliwch Hebreaid 1:3
2
Hebreaid 1:1-2
Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy'r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab. Hwn yw'r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a'r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo.
Archwiliwch Hebreaid 1:1-2
3
Hebreaid 1:14
Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?
Archwiliwch Hebreaid 1:14
4
Hebreaid 1:10-11
Y mae hefyd yn dweud: “Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear, a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd. Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros; ânt hwy i gyd yn hen fel dilledyn
Archwiliwch Hebreaid 1:10-11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos