1
Eseia 11:2-3
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a wêl y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna
Cymharu
Archwiliwch Eseia 11:2-3
2
Eseia 11:1
O'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o'i wraidd ef
Archwiliwch Eseia 11:1
3
Eseia 11:4
ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau, ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
Archwiliwch Eseia 11:4
4
Eseia 11:5
Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynau a ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.
Archwiliwch Eseia 11:5
5
Eseia 11:9
Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.
Archwiliwch Eseia 11:9
6
Eseia 11:6
Fe drig y blaidd gyda'r oen, fe orwedd y llewpard gyda'r myn; bydd y llo a'r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain.
Archwiliwch Eseia 11:6
7
Eseia 11:10
Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus.
Archwiliwch Eseia 11:10
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos