1
Eseia 6:8
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud, “Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?” Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.”
Cymharu
Archwiliwch Eseia 6:8
2
Eseia 6:3
Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall, “Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd; y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.”
Archwiliwch Eseia 6:3
3
Eseia 6:5
Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.”
Archwiliwch Eseia 6:5
4
Eseia 6:1
Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml.
Archwiliwch Eseia 6:1
5
Eseia 6:7
ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.”
Archwiliwch Eseia 6:7
6
Eseia 6:2
Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg.
Archwiliwch Eseia 6:2
7
Eseia 6:6
Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor
Archwiliwch Eseia 6:6
8
Eseia 6:9
Dywedodd, “Dos, dywed wrth y bobl hyn, ‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall; edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’
Archwiliwch Eseia 6:9
9
Eseia 6:10
Brasâ galon y bobl, trymha eu clustiau, cau eu llygaid; rhag iddynt weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall â'u calon, a dychwelyd i'w hiacháu.”
Archwiliwch Eseia 6:10
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos