1
Mathew 21:22
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe'i cewch.”
Cymharu
Archwiliwch Mathew 21:22
2
Mathew 21:21
Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, hynny a fydd.
Archwiliwch Mathew 21:21
3
Mathew 21:9
Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi: “Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf!”
Archwiliwch Mathew 21:9
4
Mathew 21:13
a dywedodd wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond yr ydych chwi yn ei wneud yn ogof lladron.’ ”
Archwiliwch Mathew 21:13
5
Mathew 21:5
“Dywedwch wrth ferch Seion, ‘Wele dy frenin yn dod atat, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.’ ”
Archwiliwch Mathew 21:5
6
Mathew 21:42
Dywedodd Iesu wrthynt, “Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau: “ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?
Archwiliwch Mathew 21:42
7
Mathew 21:43
“Am hynny rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi.
Archwiliwch Mathew 21:43
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos