1
Mathew 4:4
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ond atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bob gair sy'n dod allan o enau Duw.’ ”
Cymharu
Archwiliwch Mathew 4:4
2
Mathew 4:10
Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
Archwiliwch Mathew 4:10
3
Mathew 4:7
Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'n ysgrifenedig drachefn: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”
Archwiliwch Mathew 4:7
4
Mathew 4:1-2
Yna arweiniwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol. Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd.
Archwiliwch Mathew 4:1-2
5
Mathew 4:19-20
A dywedodd wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef.
Archwiliwch Mathew 4:19-20
6
Mathew 4:17
O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”
Archwiliwch Mathew 4:17
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos