1
Marc 11:24
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Gan hynny rwy'n dweud wrthych, beth bynnag oll yr ydych yn gweddïo ac yn gofyn amdano, credwch eich bod wedi ei dderbyn, ac fe'i rhoddir i chwi.
Cymharu
Archwiliwch Marc 11:24
2
Marc 11:23
yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a ddywed wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, heb amau yn ei galon, ond credu y digwydd yr hyn a ddywed, fe'i rhoddir iddo.
Archwiliwch Marc 11:23
3
Marc 11:25
A phan fyddwch ar eich traed yn gweddïo, os bydd gennych rywbeth yn erbyn unrhyw un, maddeuwch iddynt, er mwyn i'ch Tad sydd yn y nefoedd faddau i chwithau eich camweddau.”
Archwiliwch Marc 11:25
4
Marc 11:22
Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw
Archwiliwch Marc 11:22
5
Marc 11:17
A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig: “ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?”
Archwiliwch Marc 11:17
6
Marc 11:9
Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi: “Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.
Archwiliwch Marc 11:9
7
Marc 11:10
Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf!”
Archwiliwch Marc 11:10
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos