1
Philipiaid 1:6
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
Cymharu
Archwiliwch Philipiaid 1:6
2
Philipiaid 1:9-10
Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didramgwydd erbyn Dydd Crist
Archwiliwch Philipiaid 1:9-10
3
Philipiaid 1:21
Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw.
Archwiliwch Philipiaid 1:21
4
Philipiaid 1:3
Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch
Archwiliwch Philipiaid 1:3
5
Philipiaid 1:27
Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl
Archwiliwch Philipiaid 1:27
6
Philipiaid 1:20
Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, p'run bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth.
Archwiliwch Philipiaid 1:20
7
Philipiaid 1:29
Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist ond hefyd o ddioddef drosto
Archwiliwch Philipiaid 1:29
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos