1
Diarhebion 22:6
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.
Cymharu
Archwiliwch Diarhebion 22:6
2
Diarhebion 22:4
Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.
Archwiliwch Diarhebion 22:4
3
Diarhebion 22:1
Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer, a gwell yw parch nag arian ac aur.
Archwiliwch Diarhebion 22:1
4
Diarhebion 22:24
Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon
Archwiliwch Diarhebion 22:24
5
Diarhebion 22:9
Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.
Archwiliwch Diarhebion 22:9
6
Diarhebion 22:3
Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
Archwiliwch Diarhebion 22:3
7
Diarhebion 22:7
Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.
Archwiliwch Diarhebion 22:7
8
Diarhebion 22:2
Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd: yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.
Archwiliwch Diarhebion 22:2
9
Diarhebion 22:22-23
Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid â sathru'r anghenus yn y porth; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.
Archwiliwch Diarhebion 22:22-23
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos