1
Y Salmau 31:24
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Byddwch gryf a gwrol eich calon, yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 31:24
2
Y Salmau 31:15
Y mae fy amserau yn dy law di; gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.
Archwiliwch Y Salmau 31:15
3
Y Salmau 31:19
Mor helaeth yw dy ddaioni sydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni, ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot, a hynny yng ngŵydd pawb!
Archwiliwch Y Salmau 31:19
4
Y Salmau 31:14
Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD, ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”
Archwiliwch Y Salmau 31:14
5
Y Salmau 31:3
Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi; er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.
Archwiliwch Y Salmau 31:3
6
Y Salmau 31:5
Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di; gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.
Archwiliwch Y Salmau 31:5
7
Y Salmau 31:23
Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid. Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon, ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.
Archwiliwch Y Salmau 31:23
8
Y Salmau 31:1
Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches, na fydded cywilydd arnaf byth; achub fi yn dy gyfiawnder
Archwiliwch Y Salmau 31:1
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos