1
Y Salmau 51:10
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 51:10
2
Y Salmau 51:12
Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth, a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd.
Archwiliwch Y Salmau 51:12
3
Y Salmau 51:11
Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.
Archwiliwch Y Salmau 51:11
4
Y Salmau 51:17
Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig a churiedig ni ddirmygi, O Dduw.
Archwiliwch Y Salmau 51:17
5
Y Salmau 51:1-2
Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; golch fi'n lân o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod.
Archwiliwch Y Salmau 51:1-2
6
Y Salmau 51:7
Pura fi ag isop fel y byddaf lân; golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.
Archwiliwch Y Salmau 51:7
7
Y Salmau 51:4
Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg, fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd, ac yn gywir yn dy farn.
Archwiliwch Y Salmau 51:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos