Godhefgar wyf yn aros
Yn nydh, fy Arglwydh, a nos;
Nesodh, gwrandaw odh yn deg
Fy llefain o fwll ofeg.
A dyg fi i deg o fan,
Bell well‐well, o bwll allan, —
O glai a thom, golaith hawdh,
Ar y graig, Iôr gorugawdh;
Rheolawdh a dysgawdh, Dad
Urdhedig, fy ngherdhediad.