Trugarog, rhywiog bydh Iôr hael, — imi,
Emyn plant yr Israel;
Dod unwaith, nid wyt anhael,
Dy drugaredh fawredh fael.
Yn ol nifer, Nêr, gwn euraw, — drwy gur
Dy drugaredh hylaw;
Wyt Iôr hybarch, tro heibiaw,
Ebwch trwm o bechod draw.
Rhaid golchi, Geli golau, — Iôn irwych,
F’anwiredh a’m drygau;
Glanha fyth y galon fau,
A chadw hi rhag pechodau.