1
Genesis 32:28
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.”
Cymharu
Archwiliwch Genesis 32:28
2
Genesis 32:26
Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.”
Archwiliwch Genesis 32:26
3
Genesis 32:24
Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr.
Archwiliwch Genesis 32:24
4
Genesis 32:30
Felly enwodd Jacob y lle Penuel, a dweud, “Gwelais Dduw wyneb yn wyneb, ond arbedwyd fy mywyd.”
Archwiliwch Genesis 32:30
5
Genesis 32:25
Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef.
Archwiliwch Genesis 32:25
6
Genesis 32:27
“Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.”
Archwiliwch Genesis 32:27
7
Genesis 32:29
A gofynnodd Jacob iddo, “Dywed imi dy enw.” Ond dywedodd yntau, “Pam yr wyt yn gofyn fy enw?” A bendithiodd ef yno.
Archwiliwch Genesis 32:29
8
Genesis 32:10
Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll.
Archwiliwch Genesis 32:10
9
Genesis 32:32
Dyna pam nad yw plant Israel yn bwyta giewyn gwasg y glun hyd heddiw, oherwydd trawo gwasg clun Jacob i fyw y giewyn.
Archwiliwch Genesis 32:32
10
Genesis 32:9
A dywedodd Jacob, “O Dduw fy nhadau, Duw Abraham a Duw Isaac, O ARGLWYDD, dywedaist wrthyf, ‘Dos yn ôl i'th wlad ac at dy dylwyth, a gwnaf i ti ddaioni.’
Archwiliwch Genesis 32:9
11
Genesis 32:11
Achub fi o law fy mrawd, o law Esau; y mae arnaf ei ofn, rhag iddo ddod a'n lladd, yn famau a phlant.
Archwiliwch Genesis 32:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos