1
Marc 16:15
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
A dywedodd wrthynt, “Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i'r greadigaeth i gyd.
Cymharu
Archwiliwch Marc 16:15
2
Marc 16:17-18
A bydd yr arwyddion hyn yn dilyn i'r sawl a gredodd: bwriant allan gythreuliaid yn fy enw i, llefarant â thafodau newydd, gafaelant mewn seirff, ac os yfant wenwyn marwol ni wna ddim niwed iddynt; rhoddant eu dwylo ar gleifion, ac iach fyddant.”
Archwiliwch Marc 16:17-18
3
Marc 16:16
Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemnir.
Archwiliwch Marc 16:16
4
Marc 16:20
Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a'r Arglwydd yn cydweithio â hwy ac yn cadarnhau'r gair trwy'r arwyddion oedd yn dilyn.
Archwiliwch Marc 16:20
5
Marc 16:6
Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef.
Archwiliwch Marc 16:6
6
Marc 16:4-5
Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn. Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt.
Archwiliwch Marc 16:4-5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos