Y Salmau 16
16
SALM XVI
Conserua me.
Mae Dafydd yn enw’r eglwys yn ymroi i Dduw, yn coffau ei ddaioni, ac yn cydnabod fod ein holl ddedwyddwch ni yntho ef, drwy Ghrist, a’i gyfodiad.
1Cadw fi Duw, cans rhois fy mhwys
a’m coel yn dradwys arnad:
2Fy Arglwydd wyd: mae dan fy mron,
y gyffes hon yn wastad:
Nad lles yt yw na’m da, na’m rhin:
3ond i drin sanct daiarol,
Llesu’r rhai’n fy ’wyllys yw,
y rhai sy’n byw’n rhinweddol.
4I’r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofidiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymaf fi un amser.
5Ni henwaf chwaith, yr Arglwydd yw
fy modd i fyw, a’m phiol:
A thydi Ior sy’n rhoi ’mi ran,
a chyfran yn ddigonol.
6A thrwy Dduw syrthiodd i mi ran
o fewn y fan hyfrydaf:
Digwyddodd ymy, er fy maeth,
yr etifeddiaeth lanaf.
7Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,
hwn a roes gyngor ymmy,
F’arennau hefyd ddydd a nos,
sydd ym yn dangos hynny.
8Rhois fy Ner (bob awr) gar fy mron,
o’r achos hon ni lithraf,
Cans mae ef ar fy nehau law,
yma na thraw ni syflaf.
9O herwydd hyn, llawen a llon
yw fy nghalon: ac eilwaith
Hyfryd yw fy mharch a di ddig,
a’m cnawd a drig mewn gobaith.
10Cans yn uffern ni edi di
mo’m henaid i, i aros:
Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)
i weled llygredd ceuffos.
11Dangosi ym lwybr i fyw’n iawn,
dy fron yw’r llawn llawenydd,
Cans yn dy nerth, nid yn y llwch,
mae digrifwch tragywydd.
Dewis Presennol:
Y Salmau 16: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017
Y Salmau 16
16
SALM XVI
Conserua me.
Mae Dafydd yn enw’r eglwys yn ymroi i Dduw, yn coffau ei ddaioni, ac yn cydnabod fod ein holl ddedwyddwch ni yntho ef, drwy Ghrist, a’i gyfodiad.
1Cadw fi Duw, cans rhois fy mhwys
a’m coel yn dradwys arnad:
2Fy Arglwydd wyd: mae dan fy mron,
y gyffes hon yn wastad:
Nad lles yt yw na’m da, na’m rhin:
3ond i drin sanct daiarol,
Llesu’r rhai’n fy ’wyllys yw,
y rhai sy’n byw’n rhinweddol.
4I’r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofidiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymaf fi un amser.
5Ni henwaf chwaith, yr Arglwydd yw
fy modd i fyw, a’m phiol:
A thydi Ior sy’n rhoi ’mi ran,
a chyfran yn ddigonol.
6A thrwy Dduw syrthiodd i mi ran
o fewn y fan hyfrydaf:
Digwyddodd ymy, er fy maeth,
yr etifeddiaeth lanaf.
7Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,
hwn a roes gyngor ymmy,
F’arennau hefyd ddydd a nos,
sydd ym yn dangos hynny.
8Rhois fy Ner (bob awr) gar fy mron,
o’r achos hon ni lithraf,
Cans mae ef ar fy nehau law,
yma na thraw ni syflaf.
9O herwydd hyn, llawen a llon
yw fy nghalon: ac eilwaith
Hyfryd yw fy mharch a di ddig,
a’m cnawd a drig mewn gobaith.
10Cans yn uffern ni edi di
mo’m henaid i, i aros:
Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)
i weled llygredd ceuffos.
11Dangosi ym lwybr i fyw’n iawn,
dy fron yw’r llawn llawenydd,
Cans yn dy nerth, nid yn y llwch,
mae digrifwch tragywydd.
Dewis Presennol:
:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017