Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 24

24
SALM 24
Y Brenin gogoneddus
Blaen-y-coed 87.87.3.3.6.7
1-3Eiddo’r Arglwydd yw y ddaear
A’i holl lawnder hi i gyd.
Ar y moroedd a’r afonydd
Y sylfaenodd ef y byd.
Pwy yw’r sawl
Sydd â hawl
I roi yn ei fynydd fawl?
Yr un glân ei ddwylo a’i galon,
Un na thwyllodd yn ei fyw.
Fe gaiff fendith gan yr Arglwydd
A chyfiawnder gan ei Dduw.
4-6Dyna nod
Pawb sy’n dod
Gerbron Duw i seinio clod.
7-8Codwch, byrth, eich pennau’n uchel!
Ymddyrchefwch, ddrysau mawr!
Y mae’r brenin gogoneddus
Am gael dod i mewn yn awr.
Ond pwy yw?
Dyma’n Duw –
Arglwydd cadarn, nerthol lyw!
9-10Codwch, byrth, eich pennau’n uchel!
Ymddyrchefwch, ddrysau mawr!
Y mae’r brenin gogoneddus
Am gael dod i mewn yn awr.
Ond pwy yw?
Dyma’n Duw –
Arglwydd yr holl Luoedd yw.

Dewis Presennol:

Salmau 24: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda