Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 46

46
SALM 46
Duw yn noddfa ac yn nerth
Arabia MC
1-2aDuw yw ein noddfa ni a’n nerth.
Ein cymorth yw o hyd.
Ac felly nid arswydwn pe
Symudai yr holl fyd;
2b-3Na phe bai’r holl fynyddoedd mawr
Yn cwympo i’r môr islaw;
Na phe terfysgai’r dyfroedd nes
I’r bryniau ffoi mewn braw.
4Mae afon deg a’i ffrydiau hi
Yn llonni dinas Duw,
Y ddinas sanctaidd, lle y mae’r
Goruchaf Un yn byw.
5-6Mae Duw’n ei chanol; diogel fydd;
Yn fore helpa hi.
Pan gwyd ei lais, mae gwledydd byd
Yn toddi o’i flaen yn lli.
7-8Mae Duw y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yw ein caer.
O dewch i weld yr hyn a wnaeth,
Ei ddifrod ar y ddaer.
9Gwna i ryfeloedd beidio trwy
Y ddaear oll achlân.
Fe ddryllia’r bwa a’r waywffon,
Fe lysg dariannau â thân.
10-11Dysgwch mai ef yw’r unig Dduw,
Y dyrchafedig, claer.
Mae Duw y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yw ein caer.

Dewis Presennol:

Salmau 46: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda