Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 54

54
SALM 54
Enw Duw yn gynhaliaeth
Mannheim 87.87.87
1-3Arglwydd, gwared fi trwy d’enw;
A thrwy d’allu – nerthol yw –
Cyfiawnha fi. Gwrando ’ngweddi;
Geiriau dwys fy ngenau clyw.
Gwŷr trahaus sy’n ceisio ’mywyd,
Na feddyliant ddim am Dduw.
4-7Ti, O Dduw, yw ’nghynorthwywr;
Ti sy’n cynnal f’einioes i.
Cosba hwy trwy dy wirionedd.
Molaf byth dy enw di.
Dros gyfyngder a gelynion
Fe’m gosodaist i mewn bri.

Dewis Presennol:

Salmau 54: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda