Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 68

68
SALM 68
Caned y teyrnasoedd i Dduw
Lobe den Herren 14.14.4.7.8
1-3Boed i Dduw godi, a boed i’w elynion wasgaru.
Fel cwyr mewn tân, boed i’r rhai a’i casâ gael eu chwalu.
Bydded i’r drwg
Ddarfod o’i flaen ef fel mwg,
A’r cyfiawn yn gorfoleddu.
4-6Canwch i Dduw, sy’n marchogaeth trwy dir yr anialwch.
Tad yr amddifaid, gwarchodwr y gweddwon. Moliannwch
Y Duw a wnaeth
Gartref i’r unig a’r caeth,
A throi’r rhai drwg i’r diffeithwch.
7-10Crynodd y ddaear pan aethost trwy’r anial o’n blaenau.
Glawiodd y nefoedd o’th flaen di, Dduw Israel, Duw Sinai.
Caiff dy braidd fyw
Yn d’etifeddiaeth, O Dduw,
A gwyli dros bawb mewn eisiau.
11-14Rhoes Duw y gair, ac mae llu yn cyhoeddi’r newyddion.
Mae’r merched gartref yn rhannu trysorau’r gelynion.
Pan chwalodd Duw
Yno bob byddin a’i llyw,
Roedd eira ar Fynydd Salmon.
15-16Ti, Fynydd Basan, sydd uchel, a thal dy gopaon,
Pam yr edrychi mewn cymaint cenfigen ar Seion,
Lle y mae Duw
Wedi ei ddewis i fyw,
Cartref ei fythol fendithion?
17-18Yr oedd cerbydau yr Arglwydd yn filoedd ar filoedd
Pan ddaeth i’w gysegr yn Seion, a’i gaethion yn lluoedd.
Rhoesant i gyd
Roddion i Dduw yr holl fyd
Yno, lle trig yn oes oesoedd.
19-23Bendigaid beunydd yw’r Arglwydd. Rhag angau fe’n ceidw.
Duw sy’n gwaredu yw Duw’n hiachawdwriaeth; ond geilw
Yr euog oll
O uchder Basan a’r holl
Foroedd i’w difa yn ulw.
24-27Gwelir d’orymdaith i’r cysegr, Arglwydd – cantorion
Ac offerynwyr yn arwain, yna morynion
Yn canu’n llon
Iti, Dduw Israel, gerbron
Y llwythau a’u tywysogion.
28-31O Dduw, o achos dy deml yn Jerwsalem, brysied
Pobl Ethiopia a’r Aifft atat ti gyda’u teyrnged.
Ond pâr ddileu
Y lloi o bobl sy’n dyheu
Am ryfel, arian a hoced.
32-35Canwch i Dduw; rhoddwch foliant i’r Arglwydd, deyrnasoedd.
Gwrandewch lais nerthol yr un sy’n marchogaeth y nefoedd.
Ofnadwy yw
Grym a gogoniant ein Duw.
Bendigaid fo yn oes oesoedd.

Dewis Presennol:

Salmau 68: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda