Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 25

25
1Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a’i henw Cetura. 2A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. 3A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim. 4A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.
5Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac. 6Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw. 7A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain. 8Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl. 9Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre; 10Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
11Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i DDUW fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai-roi.
12A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham. 13A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf-anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam, 14Misma hefyd, a Duma, a Massa, 15Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema. 16Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd. 17A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl. 18Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
19A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac. 20Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo. 21Ac Isaac a weddïodd ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a’r ARGLWYDD a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd. 22A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r ARGLWYDD. 23A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
24A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi. 25A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau. 26Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt. 27A’r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o’r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll. 28Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.
29A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol. 30A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o’r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom. 31A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth-fraint. 32A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna’r enedigaeth-fraint hon i mi? 33A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob. 34A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys; ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.

Dewis Presennol:

Genesis 25: BWMA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda