Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 35

35
Deddf y Saboth
1Casglodd Moses ynghyd holl gynulliad pobl Israel a dweud wrthynt, “Dyma'r hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneud: 2Chwe diwrnod y gweithiwch, ond bydd y seithfed dydd yn gysegredig, yn Saboth o orffwys i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd hwnnw. 3Peidiwch hyd yn oed â chynnau tân yn eich cartrefi ar y dydd Saboth.”
Rhoddion ar gyfer y Tabernacl
Ex. 25:1–9
4Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, “Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 5Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd; 6sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr, 7crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia, 8olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; 9meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
Gwaith ar gyfer y Tabernacl
Ex. 39:32–43
10“Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 11y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed; 12yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd; 13y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod; 14y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau; 15allor yr arogldarth a'i pholion, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd, gorchudd drws y tabernacl; 16allor y poethoffrwm a'r rhwyll bres, ei pholion a'i holl lestri, y noe a'i throed; 17llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed, a gorchudd drws y cyntedd; 18hoelion y tabernacl a'r cyntedd a'u rhaffau; 19gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad ac i'w feibion, i wasanaethu fel offeiriaid.”
Offrymau Gwirfoddol y Bobl
20Yna aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith oddi wrth Moses, 21a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig. 22Felly daethant, yn wŷr a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD. 23Yr oedd pob un a chanddo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod, yn dod â hwy. 24Yr oedd pob un a allai gyflwyno offrwm o arian neu bres yn dod ag ef i'r ARGLWYDD; ac yr oedd pob un a chanddo goed acasia addas ar gyfer y gwaith yn dod â hwy. 25Yr oedd pob gwraig fedrus yn nyddu â'i dwylo, ac yn dod â'i gwaith o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main. 26Yr oedd pob gwraig a fedrai nyddu blew geifr yn gwneud hynny. 27Daeth yr arweinwyr â meini onyx, meini i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg, 28perlysiau ac olew ar gyfer y lamp ac ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd. 29Pan fyddai gŵr neu wraig trwy holl Israel yn dymuno dod ag unrhyw beth ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, byddai'n dod â'i offrwm i'r ARGLWYDD o'i wirfodd.
Crefftwyr y Tabernacl
Ex. 31:1–11
30Dywedodd Moses wrth bobl Israel: “Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, 31ac wedi ei lenwi ag ysbryd Duw, ac â doethineb a deall, â gwybodaeth hefyd a phob rhyw ddawn, 32er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain, a gweithio ag aur, arian a phres, 33a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith. 34Hefyd, ysbrydolodd yr ARGLWYDD ef ac Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan i ddysgu eraill. 35Llanwodd hwy â'r ddawn i wneud pob math o waith crefftus a chywrain a wneir gan saer neu grefftwr, neu gan un sy'n brodio sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, neu gan un sy'n gwau.”

Dewis Presennol:

Exodus 35: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda