Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 23

23
Marw Sara
1Bu Sara fyw am gant dau ddeg a saith o flynyddoedd; dyna hyd ei hoes. 2Bu farw Sara yn Ciriath-arba, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan; ac aeth Abraham i alaru am Sara, ac wylodd amdani. 3Wedi hynny cododd Abraham o ŵydd y marw, a dywedodd wrth yr Hethiaid, 4“Dieithryn ac ymdeithydd wyf yn eich mysg; rhowch i mi hawl ar fedd yn eich plith, er mwyn imi gael claddu fy marw.” 5Atebodd yr Hethiaid Abraham, a dweud wrtho, 6“Clyw ni, f'arglwydd; tywysog nerthol wyt ti yn ein plith. Cladda dy farw yn y gorau o'n beddau; ni wrthyd neb ohonom ei fedd iti i gladdu dy farw.” 7Yna cododd Abraham ac ymgrymu i'r Hethiaid, pobl y wlad, 8a dweud wrthynt, “Os ydych yn fodlon imi gladdu fy marw, gwrandewch arnaf, a deisyfwch trosof ar Effron fab Sohar 9iddo roi imi ogof Machpela, sy'n eiddo iddo ac yng nghwr ei faes. Rhodded hi i mi am y pris llawn, imi gael hawl ar fedd yn eich plith.” 10Yr oedd Effron yn eistedd gyda'r Hethiaid, a dywedodd wrth Abraham yng nghlyw'r Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth ei ddinas, 11“Na, f'arglwydd, gwrando arnaf; rhof y maes i ti yn ogystal â'r ogof sydd ynddo; yr wyf yn ei rhoi i ti yng ngŵydd fy mhobl; cladda dy farw.” 12Yna ymgrymodd Abraham o flaen pobl y wlad, 13a dywedodd wrth Effron yn eu clyw, “Os felly, gwrando arnaf; yr wyf am roi i ti bris y maes; cymer hyn gennyf, er mwyn imi gael claddu fy marw yno.” 14Atebodd Effron Abraham a dweud wrtho, 15“Gwrando arnaf, f'arglwydd; darn o dir gwerth pedwar can sicl o arian, beth yw hynny rhyngom ni? Cladda dy farw.” 16Cytunodd Abraham ag Effron, a phwysodd iddo yr arian a grybwyllodd yng nghlyw'r Hethiaid, pedwar can sicl o arian, yn ôl pwysau'r marchnatwyr.
17-18Felly y sicrhawyd i Abraham, yng ngŵydd yr Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth y ddinas, feddiant ar faes Effron yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd ef y maes a'r ogof ynddo a phob coeden o fewn holl derfynau'r maes. 19Wedi hynny, claddodd Abraham ei wraig Sara yn yr ogof ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan. 20Sicrhawyd gan yr Hethiaid y maes a'r ogof oedd ynddo yn gladdfa i Abraham.

Dewis Presennol:

Genesis 23: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda