Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 13

13
13. IESU YN SÔN AM EI DDYFODOL
Rhagfynegi Dinystr y Deml (Marc 13:1-2)
1-2Wrth iddyn nhw fynd allan o'r deml, dwedodd un o'r disgyblion wrth Iesu, “Edrych, Athro, dyna gerrig enfawr ac adeiladau gwych.” Dwedodd Iesu, “Ni bydd dim o'r adeiladau mawr yn sefyll, bydd y cyfan wedi'i ddinistrio.”
Dechrau'r Poen (Marc 13:3-13)
3-13Yn hwyrach, pan oedd Iesu'n eistedd ar Fynydd yr Olewydd gyferbyn â'r deml, gofynnodd Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn gyfrinachol iddo, “Pryd y bydd hyn, a beth fydd i ddangos fod pethau ar fin digwydd?” Aeth Iesu ymlaen i ddweud, “Byddwch ofalus rhag i neb eich twyllo. Daw llawer yn fy enw i, gan ddweud, ‘Fi ydy ef’, ac fe dwyllir llawer. Peidiwch ag ofni pan glywch sôn am ymladd a rhyfeloedd. Mae'n rhaid i'r pethau hyn ddigwydd, ond nid dyna'r diwedd. Bydd cenedl yn ymladd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd daeargrynfâu a newyn mewn mannau. Ond dechrau poen fydd y pethau hyn. Cymerwch ofal o'ch hunain, oherwydd cewch eich llusgo i lysoedd, a'ch chwipio mewn synagogau, a'ch gosod o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, i roi tystiolaeth o'm hachos i. Ond yn gyntaf mae'n rhaid cyhoeddi'r Newyddion Da i bawb ym mhobman. Pan ân nhw â chi i ffwrdd, peidiwch â phoeni ynglŷn â beth i'w ddweud, oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn siarad trwoch chi. Bydd brawd yn bradychu brawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a bydd plant yn codi yn erbyn eu rhieni ac yn eu lladd. Bydd pawb yn eich casáu o'm hachos i; ond bydd y rhai sy'n parhau'n ffyddlon hyd y diwedd yn ddiogel.
Y Gofid Mawr (Marc 13:14-23)
14-23“Pan welwch ‘y peth ffiaidd ofnadwy’ yn sefyll lle na ddylai fod, yna rheded pobl Jwdea i'r mynyddoedd. Peidied yr un sy ar do ei dŷ â dod i lawr i hôl dim ohono. Peidied yr un sy yn y cae â throi'n ôl i estyn am ei got. Druan o'r gwragedd sy'n disgwyl plant a'r rheini sy â babanod yn y dyddiau hynny. Gweddïwch na fydd hyn yn digwydd yn y gaeaf, oherwydd bydd gofid y dyddiau hynny yn annhebyg i unrhyw beth a fu ers dechrau'r byd hyd heddiw, ac ni fydd ei debyg fyth eto. Oni bai i'r Arglwydd fyrhau'r dyddiau hynny, ni fyddai neb ar ôl yn fyw, ond mae ef wedi'u byrhau nhw er mwyn ei bobl ddewisiedig. Felly, os bydd rhywun yn dweud wrthych chi, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Dacw fe’, peidiwch â'i gredu. Oherwydd fe ddaw sawl gau‐feseia a gau‐broffwyd, a gwneud arwyddion a rhyfeddodau mewn ymgais i gamarwain y rhai dewisiedig. Byddwch wyliadwrus, rydw i wedi dweud y cyfan wrthych chi ymlaen llaw.
Dyfodiad Mab y Dyn (Marc 13:24-27)
24-27“Yn y dyddiau hynny, ar ôl y gofid hwnnw,
‘Aiff yr haul yn dywyll,
ac ni bydd golau gan y lleuad,
syrthia'r sêr o'r ffurfafen,
a bydd pwerau'r nef yn siglo.’
Pryd hynny, fe ddaw Mab y Dyn ar y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Bydd yn anfon ei angylion i gasglu ei ddewisiedig o'r gogledd a'r de, o'r dwyrain a'r gorllewin ac o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.
Gwers y Ffigysbren (Marc 13:28-31)
28-31“Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd y pren wedi blaguro ac yn dechrau deilio, byddwch chi'n gwybod fod yr haf yn agos. Yn yr un modd, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos iawn. Credwch fi, ddaw'r genhedlaeth hon ddim i ben nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. Aiff y nef a'r ddaear heibio, ond bydd fy ngeiriau i yn aros.
Y Dydd a'r Awr Anhysbys (Marc 13:32-37)
32-37“Ynglŷn â'r dydd hwnnw a'r awr, does neb ond y Tad yn gwybod pryd y digwydd. Dydy'r angylion na'r Mab ddim yn gwybod. Gwyliwch a byddwch effro oherwydd wyddoch chi ddim pryd y daw'r amser. Mae'n debyg i ddyn a aeth i ffwrdd, gan adael ei dŷ yng ngofal ei weision, a rhoi gwaith i bob un ohonyn nhw, a siarsio'r porthor i fod yn wyliadwrus. Gwyliwch, oherwydd wyddoch chi ddim pryd y daw meistr y tŷ yn ôl — gyda'r hwyr, neu gyda'r wawr — rhag ofn iddo ddod yn sydyn a chithau'n cysgu. Rydw i'n dweud wrth bawb fel rydw i'n dweud wrthych chi, ‘Gwyliwch.’ ”

Dewis Presennol:

Marc 13: DAW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda