Yn ystod yr ŵyl roedd Pilat yn arfer rhyddhau un carcharor o ddewis y bobl. Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny a laddodd bobl yn ystod y terfysg. Daeth y dyrfa i fyny at Pilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer. Atebodd Pilat, “Ydych chi am i mi ryddhau Brenin yr Iddewon i chi?” Roedd e'n gwybod fod y prif offeiriaid yn genfigennus o Iesu, a dyna pam iddyn nhw ddod ag ef ato. Aeth y prif offeiriaid i gynhyrfu'r dyrfa er mwyn cael Pilat i ryddhau Barabbas yn hytrach na Iesu. Gofynnodd Pilat iddyn nhw, “Beth felly, ydych chi am i mi wneud â'r un rydych chi'n ei alw yn Frenin yr Iddewon?” Dyma nhw'n gweiddi'n groch, “Croeshoelia fe.” Gofynnodd Pilat iddyn nhw, “Ond pa ddrwg wnaeth e?” Atebodd y dyrfa drwy weiddi'n uwch fyth, “Croeshoelia fe.” Felly, gan fod yn well ganddo roi mewn i'r dyrfa, penderfynodd Pilat ryddhau Barabbas a gorchymyn chwipio Iesu cyn ei groeshoelio.
Darllen Marc 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 15:6-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos