Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 4

4
4. IESU A'R DYSGWYR
Dameg yr Heuwr (Marc 4:1-9)
1-9Dechreuodd Iesu ddysgu'r bobl ar lan y môr unwaith eto, a daeth cynifer ato fel bu'n rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch ar y môr; ac roedd yr holl dyrfa ar y lan. Roedd e'n dysgu llawer iddyn nhw drwy ddamhegion. “Gwrandewch!” meddai. “Aeth heuwr i'r meysydd i hau. Wrth iddo wasgaru'r had, syrthiodd peth ar y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta. Yna, syrthiodd ychydig ymhlith y cerrig, lle nad oedd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am fod y pridd yno'n ysgafn; ond pan gododd yr haul llosgwyd y tyfiant hwnnw a gwywodd am nad oedd y gwreiddiau'n ddigon dwfn. Syrthiodd rhan arall o'r had ymhlith y drain a thyfodd y drain a'i dagu, ac ni chafwyd ffrwyth ohono. Syrthiodd y gweddill ar dir da; tyfodd a chynyddodd hwnnw gan roi cnwd — peth ohono'n ddengwaith ar hugain cymaint ag a heuwyd, peth drigain cymaint, a pheth ganwaith cymaint.” Yna dwedodd Iesu, “Os oes clustiau gennych, gwrandewch.”
Pwrpas y Damhegion (Marc 4:10-12)
10-12Pan oedd Iesu ar ei ben ei hun, dechreuodd y rhai oedd o amgylch, gan gynnwys y deuddeg disgybl, holi Iesu ynglŷn â'r damhegion. Atebodd Iesu a dweud: “Mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi'i rhoi i chi; ond rhaid dysgu pobl eraill trwy ddamhegion, ‘er eu bod yn edrych, dydyn nhw ddim yn gweld, ac er eu bod yn clywed, dydyn nhw ddim yn deall, rhag ofn iddyn nhw droi a derbyn maddeuant.’ ”
Egluro Dameg yr Heuwr (Marc 4:13-20)
13-20Gofynnodd Iesu, “Ydych chi ddim yn deall y ddameg hon? Sut felly wnewch chi ddeall yr holl ddamhegion eraill? Hau neges y Deyrnas mae'r heuwr. Mae yna bobl ar hyd y llwybr, a chyn gynted ag y clywan nhw'r neges daw Satan a'i dwyn oddi arnyn nhw. Mae'r had sy'n syrthio ymhlith y cerrig yn ddarlun o'r bobl sy'n clywed y neges, ac yn ei derbyn hi ar eu hunion yn llawen; ond gan nad oes fawr o wreiddiau ganddyn nhw, dim ond dros dro mae nhw'n para. Pan ddaw gofid neu erlid o achos y neges, maen nhw'n colli'u ffydd. Mae'r had sy'n syrthio i ganol y drain yn ddarlun o'r bobl sy'n clywed y neges, ond bod gofalon bywyd, cyfoeth, a chwantau am bob math o bethau yn ei thagu hi, ac yn ei rhwystro rhag rhoi cnwd. Darlun o'r bobl sy'n clywed y neges ac yn ei chroesawu hi, ydy'r had sy'n syrthio ar dir da. Mae'n dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain, a hyd drigain, a hyd ganwaith cymaint ag a heuwyd.”
Ysblander Goleuni (Marc 4:21-25)
21-25Gofynnodd Iesu, “Fydd rhywun yn cynnau cannwyll a'i rhoi dan lestr neu wely? Oni fyddai'n well ei gosod mewn canhwyllbren? Does dim sy wedi'i guddio na chaiff ei ddatguddio, ac ni ddodwyd dim o'r neilltu na ddaw i'r amlwg. Os oes clustiau gennych, gwrandewch.” Dwedodd Iesu hefyd, “Gwrandewch yn astud ar yr hyn a glywch. Fe dderbyniwch yn ôl yr hyn y rhowch i eraill, ac fe roddir rhagor i chi. Mae'r un sy â rhywbeth ganddo yn cael mwy, ond am y sawl sy heb ddim, fe gymerir oddi arno hyd yn oed hynny sy ganddo.”
Dameg yr Had yn Tyfu (Marc 4:26-29)
26-29Dwedodd Iesu, “Fel hyn mae teyrnas Dduw. Bydd dyn yn hau ac yna yn mynd i'w wely a chysgu. Drannoeth, bydd yr had wedi egino a thyfu mewn modd na all ef ei ddeall. Mae'r ddaear yn dwyn ffrwyth o'i rhan ei hunan, yr egin yn gyntaf, wedyn y dywysen, ac yna'r ŷd yn llanw'r dywysen. Pan fydd y cnwd wedi aeddfedu adeg y cynhaeaf, bydd dyn yn mynd ati ar unwaith â'i gryman i'w gasglu.”
Dameg yr Hedyn Mwstard (Marc 4:30-34)
30-34Gofynnodd Iesu eto, “Â pha beth y gallwn ni gymharu teyrnas Dduw? Pa ddameg a ddefnyddiwn ni i egluro? Mae'r deyrnas yn debyg i hedyn mwstard; mae'r hedyn hwn yn llai nag unrhyw hedyn arall, ond wedi'i hau, mae'n tyfu'n fwy na'r llysiau eraill i gyd. Mae ei frigau a'i ganghennau mor fawr nes bod yr adar yn dod i nythu dan ei gysgod.” Roedd Iesu'n llefaru llawer o ddamhegion wrth y bobl er mwyn iddyn nhw wrando a deall. Ni ddwedai ddim wrthyn nhw heb ddameg. Ond, o'r neilltu, byddai Iesu'n egluro popeth i'w ddisgyblion.
Gostegu Storm (Marc 4:35-41)
35-41Fel roedd hi'n nosi, dwedodd Iesu, “Gadewch i ni groesi i'r ochr draw.” Felly, gadawson nhw'r dyrfa, a mynd gydag e yn y cwch; roedd cychod eraill yno hefyd. Yn sydyn, cododd gwynt cryf, ac roedd y tonnau'n llifo i mewn i'r cwch, nes ei fod bron yn llawn. Roedd Iesu yng nghefn y cwch yn cysgu ar glustog. Daeth ei ddisgyblion ato i'w ddeffro a dweud, “Athro, mae ar ben arnon ni. Dwyt ti ddim yn hidio?” Deffrôdd Iesu, ceryddodd y gwynt, a dwedodd wrth y môr, “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. Gofynnodd Iesu, “Pam mae ofn arnoch chi? Pam fod gennych gyn lleied o ffydd?” Daeth ofn mawr arnyn nhw, a dwedson nhw wrth ei gilydd, “Pa fath ddyn ydy hwn? Mae hyd yn oed y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo”.

Dewis Presennol:

Marc 4: DAW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda