Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 7:1-13

Marc 7:1-13 DAW

Roedd Phariseaid ac ysgrifenyddion wedi dod o Jerwsalem. Daethon nhw at Iesu am eu bod wedi sylwi bod rhai o'i ddisgyblion yn bwyta heb olchi eu dwylo yn null arbennig y Phariseaid. (Dydy'r Phariseaid, na'r Iddewon, ddim yn bwyta heb olchi eu dwylo hyd at yr arddwrn. Dyna draddodiad eu cyndeidiau. Fyddan nhw byth yn bwyta heb ymolchi ar ôl dod yn ôl o'r farchnad. Byddan nhw'n cadw llawer o draddodiadau eraill hefyd ynglŷn â golchi cwpanau, ystenau, llestri pres a gwelyau.) Gofynnodd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion, “Pam nad ydy dy ddisgyblion di'n dilyn traddodiad ein cyndeidiau? Pam mae nhw'n bwyta gyda dwylo heb eu golchi?” Atebodd Iesu, “Dwedodd y proffwyd Eseia galon y gwir amdanoch chi ragrithwyr: ‘Mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu i gyda'u gwefusau, ond mae eu calon ymhell oddi wrthyf; mae nhw'n fy addoli i yn ofer, a dim ond rheolau dynion ydy eu dysgeidiaeth nhw.’ Rydych chi'n anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynion.” Ychwanegodd hefyd, “Rydych chi'n dda am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain. Dwedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Pwy bynnag sy'n melltithio ei dad neu'i fam, lladder ef’. Ond rydych chi'n dysgu, ‘Os bydd rhywun yn dweud wrth ei dad neu'i fam, “Corban — hynny ydy, rydw i wedi rhoi unrhyw ddyletswydd oedd arna i tuag atoch chi, i Dduw”,’ does dim rhaid iddo bellach anrhydeddu ei dad neu'i fam. Rydych chi, drwy eich traddodiad, wedi dirymu gorchymyn Duw.”