Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 12

12
Yr eneinio ym Methania
1Chwe diwrnod cyn Gŵyl y Pasg, daeth yr Iesu i Fethania, lle roedd Lasarus, a gafodd ei godi o farw, yn fyw. 2Roedden nhw wedi paratoi swper ar ei gyfer, a Martha yn gweini wrth y bwrdd; roedd Lasarus ymysg y rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd gyda’r Iesu. 3Yna fe gymerodd Mair bwys o beraroglau costus eithriadol wedi ei wneud o nard pur, ac eneinio traed yr Iesu a’u sychu â’i gwallt, nes y llanwyd y tŷ â’r perarogl. 4Yna meddai Jwdas Iscariot, un o’i ddisgyblion, y sawl oedd i’w fradychu, 5“Pam na chafodd yr ennaint hwn ei werthu am ddeg punt ar hugain, a’r elw i’w roi i’r tlodion?”
6Ond fe ddywedodd hyn am mai lleidr oedd, nid am ei fod yn poeni am neb tlawd. Ef oedd y trysorydd; doedd hi’n ddim ganddo’i helpu’i hun o’r pwrs.
7“Gadewch lonydd iddi,” meddai’r Iesu. “Mae hi wedi gwneud hyn yn awr erbyn amser fy nghladdu. 8Fe fydd pobl dlawd gyda chi bob amser, ond fyddaf fi ddim.”
Cynllwyn yr erbyn Lasarus
9Fe glywodd llaweroedd o’r Iddewon fod yr Iesu yno, ac fe ddaethon nhw, nid yn unig i’w weld Ef, ond hefyd i weld Lasarus, a gododd yr Iesu o farw. 10Felly dyma’r prif offeiriaid yn cynllwynio i ladd Lasarus hefyd, 11oherwydd o’i achos ef roedd llawer o’r Iddewon yn troi at yr Iesu a chredu ynddo.
Yr Iesu’n marchogaeth i Jerwsalem
12Trannoeth fe glywodd y dyrfa fawr a ddaeth i’r Ŵyl fod yr Iesu yn dod i Jerwsalem. 13Felly gan gymryd canghennau o’r palmwydd, fe aethon nhw i’w gwrdd, a gweiddi, “Hosanna. Bendigedig yw’r hwn sy’n dod yn enw’r Arglwydd ac yn Frenin Israel.”
14A phan gafodd yr Iesu hyd i asyn, aeth ar ei gefn fel mae’r Ysgrythur yn dweud:
15‘Paid ag ofni, ferch Jerwsalem;
Edrych, mae dy Frenin yn dod,
Yn marchogaeth ar ebol asyn.’
16Doedd ei ddisgyblion ddim yn deall hyn ar y pryd, ond ar ôl i’r Iesu gael ei ogoneddu, yna dyma nhw’n cofio fod hyn wedi cael ei ysgrifennu amdano ac wedi digwydd iddo. 17Tystiolaethwyd i hynny hefyd gan y bobl hynny a oedd yn bresennol pan alwodd ef Lasarus allan o’r bedd a’i godi o farw. 18Dyma pam yr aeth y dyrfa i’w gwrdd, roedden nhw wedi clywed am yr arwydd roedd ef wedi’i wneud. 19Ac meddai’r Phariseaid wrth ei gilydd, “Edrychwch, does dim gallwch chi ei wneud. Yn wir mae’r byd i gyd wedi mynd ar ei ôl.”
Rhai Groegiaid yn gofyn am yr Iesu
20Roedd rhai Groegiaid ymhlith y dyrfa a aeth i fyny i addoli ar yr Ŵyl. 21Aeth y rhain at Philip a oedd o Fethseida yng Ngalilea, ac medden nhw wrtho, “Syr, fe hoffem ni weld yr Iesu.”
22Felly dyma Philip yn dweud wrth Andreas, a’r ddau yn mynd i ddweud wrth yr Iesu. 23A dyma’r Iesu’n ateb, “Daeth yr awr bellach i Fab y Dyn gael ei ogoneddu. 24Credwch chi fi, mae gronyn o wenith yn aros yn ronyn os na syrthia i’r ddaear a marw. Ond os bydd farw, fe ddwg lawer o rawn. 25Pwy bynnag sy’n ei garu ei hunan, colli ei hunan y mae, ond pwy bynnag sy’n ei gasáu ei hun yn y byd hwn, fe fydd yn ddiogel i fywyd y nefoedd. 26Os oes rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle rwyf fi, yno y bydd fy ngwas hefyd. A phwy bynnag fydd yn was i mi, fe gaiff anrhydedd gan fy Nhad.”
27“Nawr rydw i wedi fy nghynhyrfu i’r byw. Beth fedraf fi ei ddweud? ‘Fy Nhad, gwared fi rhag yr awr yma’? Ond am yr union reswm yma y deuthum i’r awr hon. 28Fy Nhad, anrhydedda fy enw.”
Ar hyn daeth llais o’r nef, “Rydw i wedi ei anrhydeddu, ac fe wnaf hynny eto.”
29Fe glywodd y dyrfa, a safai wrth ymyl, y llais a dweud mai taran oedd. Meddai eraill, “Fe siaradodd angel ag ef.”
30Atebodd yr Iesu, “Fe siaradodd y llais er eich mwyn chi, nid er fy mwyn i. 31Daeth yn ddydd prawf ar y byd hwn yn awr; yn awr fe gaiff y diafol sy’n rheoli’r byd hwn ei orchfygu. 32Ond amdanaf fi, pan gaf fy nghodi oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf.”
33Fe ddywedodd hyn i awgrymu’r ffordd y byddai farw.
34Fe atebodd y bobl, “Mae ein Cyfraith ni yn ein dysgu fod y Meseia i fyw byth. Beth rwyt ti’n feddwl wrth ddweud fod Mab y Dyn i gael ei godi? Pwy ydy hwn, ‘Mab y Dyn’?”
35Fe atebodd yr Iesu, “Bydd y goleuni gennych eto am ychydig. Byddwch fyw yn y goleuni tra bo cyfle, fel na chewch chi’ch dal gan y tywyllwch. Dydy’r sawl sy’n cerdded mewn tywyllwch ddim yn gwybod ble mae’n mynd. 36Tra bo’r goleuni gennych, ymddiriedwch ynddo fel y dowch chi’n rhai fydd yn berchen y goleuni.”
Anghrediniaeth yr Iddewon
Wedi dweud hyn fe aeth yr Iesu ymaith ac ymguddio.
37Er yr holl arwyddion nerthol hyn a wnaeth yr Iesu yn eu plith wnaethon nhw ddim credu ynddo. 38Roedd rhaid i eiriau’r proffwyd Eseia ddod yn wir:
‘Arglwydd, pwy a gredodd ein neges ni?
I bwy y dangosodd yr Arglwydd ei nerth?’
39Felly, fedren nhw ddim credu oherwydd mae yna air arall o eiddo Eseia:
40‘Fe ddallodd eu llygaid,
A chau eu meddyliau,
Fel na welen nhw â’u llygaid,
Na deall â’u calonnau,
A throi ataf fi
Fel y gallwn eu gwella.’
41Fe siaradodd Eseia fel hyn oherwydd iddo weld gogoniant yr Iesu a dweud amdano.
42Ac eto fe gredodd nifer hyd yn oed o’r rhai oedd mewn awdurdod ynddo ef, ond wnaen nhw mo’i arddel ef oherwydd y Phariseaid. Roedd arnyn nhw ofn cael eu diarddel o’r synagog. 43Roedd yn well ganddyn nhw glod gan ddynion na chlod gan Dduw.
Gair yr Iesu’n barnu
44Felly gwaeddodd yr Iesu’n uchel, “Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, mae’n credu nid ynof fi ond yn y sawl a’m hanfonodd i. 45Mae fy ngweld i yn golygu gweld yr hwn a’m hanfonodd i. 46Mi ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel nad arhoso neb sy’n ymddiried ynof fi yn y tywyllwch. 47Ond os clyw neb fy ngeiriau a pheidio â’u cadw, nid fi fydd yn ei farnu. Dwyf fi ddim wedi dod i farnu’r byd ond i’w achub. 48Mae yna farnwr ar gyfer y sawl sy’n fy ngwrthod i a’m geiriau. Y gair a gyhoeddais i fydd ei farnwr ar y dydd olaf. 49Nid drwy fy awdurdod fy hun rwyf wedi siarad, ond mae’r Tad a’m hanfonodd i wedi gorchymyn i mi beth i’w ddweud a sut i siarad. 50Fe wn fod ei orchmynion yn fywyd y nefoedd. Yr hyn ddywedodd y Tad wrthyf felly, dyna rwyf yn ei gyhoeddi.”

Dewis Presennol:

Ioan 12: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda