Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 14

14
Yr Iesu’n dysgu eto
1“Peidiwch â bod mor bryderus eich calon. Daliwch i gredu yn Nuw, a daliwch i gredu ynof finnau 2Mae llawer lle i aros yn Nhŷ fy Nhad; pe na fyddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych chi fy mod yn mynd i baratoi lle i chi? 3Ac ar ôl mynd a pharatoi lle i chi, fe ddof yn ôl i’ch cymryd ataf fi fy hun er mwyn i chi fod lle rwyf fi. 4Rydych chi’n gwybod y ffordd yn iawn i’r lle rwyf fi’n mynd.” 5Meddai Thomas, “Arglwydd, dydym ni ddim yn gwybod i ble rwyt ti’n mynd, sut felly y medrwn ni wybod y ffordd?”
6“Fi yw’r ffordd, fi yw’r gwirionedd a fi yw’r bywyd,” atebodd yr Iesu. “Does neb yn dod at y Tad ond trwof fi.”
7“Os ydych chi wedi fy nabod i fe gewch chi nabod fy Nhad hefyd. O hyn ymlaen rydych chi yn ei nabod; ac wedi ei weld.”
8Meddai Philip wrtho, “Arglwydd, dangos y Tad inni, dyna’r cyfan sydd eisiau arnom.”
9Atebodd yr Iesu, “A wyf fi wedi bod yr holl amser yma gyda chi a dwyt ti eto ddim yn fy nabod i, Philip? Pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i, mae ef wedi gweld y Tad. Sut medri di ddweud, ‘Dangos y Tad inni’? 10Dwyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad a’r Tad ynof fi? Nid fi yw awdur y geiriau rwyf yn eu llefaru wrthych, ond y Tad, sy’n aros ynof fi, sy’n gwneud ei waith ei hun. 11Credwch fi pan wyf yn dweud fy mod yn y Tad a’r Tad ynof fi, neu ynteu credwch yr union bethau sy’n cael eu gwneud. 12Yn wir i chi, pwy bynnag sy’n credu ynof fi, fe wna yr hyn rwyf fi yn ei wneud — ac fe wna bethau mwy na hyn, oherwydd rwyf fi yn mynd at y Tad. 13Yn wir, fe wnaf unrhyw beth a ofynnwch yn fy enw er mwyn gogoneddu’r Tad yn y Mab. 14Os gofynnwch rywbeth i minnau yn fy enw i fe’i gwnaf.”
Addewid yr Ysbryd
15“Os ydych yn fy ngharu fe gedwch fy ngorchmynion i. 16Fe ofynnaf finnau i’r Tad, ac fe rydd ef un arall i’ch cynorthwyo, Ysbryd y Gwirionedd, i fod gyda chi am byth. 17Fedr y byd mo’i dderbyn ef oherwydd dyw’r byd ddim yn ei weld nag yn ei nabod; rydych chi yn ei nabod oherwydd mae’n aros gyda chi ac yn byw ynoch chi. 18Wnaf fi mo’ch gadael chi yn amddifad; rwyf yn dod atoch chi. 19Ymhen ychydig fydd y byd ddim yn fy ngweld i, ond fe welwch chi fi, ac am fy mod i’n fyw fe fyddwch chithau fyw hefyd. 20Pryd hynny fe fyddwch yn gwybod fy mod i yn fy Nhad, a chithau ynof finnau, a minnau ynoch chithau. 21Y sawl sy’n dal ar fy ngorchmynion ac yn ufuddhau iddyn nhw, hwnnw sy’n fy ngharu i; a phwy bynnag sy’n fy ngharu, fe gaiff hwnnw ei garu gan fy Nhad; ac fe’i caraf i ef hefyd, ac fe wnaf fy hun yn gwbl eglur iddo.”
22Gofynnodd Jwdas iddo — y Jwdas arall, nid yr Iscariot, “Beth sydd wedi digwydd, Arglwydd, dy fod am wneud dy hun yn eglur i ni’n unig ac nid i’r byd?”
23Atebodd yr Iesu, “Os bydd rhywun yn fy ngharu i fe fydd yn ufudd i’m gair; ac fe fydd fy Nhad yn ei garu ef ac fe ddown ni ato a chartrefu gydag ef. 24Mae’r sawl nad yw’n fy ngharu yn anufudd i’m gair. Nid fi piau’r gair rydych chi yn ei glywed: gair y Tad a’m hanfonodd yw ef. 25Rwyf wedi dweud hyn wrthych a minnau gyda chi hyd yn hyn, 26ond y Cynorthwywr, yr Ysbryd Glân a anfonir gan y Tad yn f’enw i, fe ddysg hwnnw bopeth i chi a’ch atgoffa o’r cwbl a ddywedais i wrthych. Yr Ysbryd Glân fydd y Tad yn ei anfon yn f’enw yw hwnnw.
27“Tangnefedd rwy’n ei adael i chi; fy nhangnefedd i fy hun rwy’n ei roi i chi. Dwyf fi ddim yn ei roi i chi fel y mae’r byd yn rhoi. Peidiwch â bod mor bryderus eich calon; peidiwch â bod yn llwfr. 28Fe glywsoch yr hyn a ddywedais wrthych. ‘Rwyf yn mynd i ffwrdd, ac yn dod yn ôl atoch.’ Pe baech chi’n fy ngharu fe fyddech yn falch fy mod yn mynd at y Tad oherwydd mae’r Tad yn fwy na fi. 29Rwyf wedi dweud hyn yn awr ymlaen llaw er mwyn i chi gredu pan ddaw i ben.
30“Fyddaf fi ddim yn sgwrsio llawer â chi eto; mae rheolwr y byd hwn yn agosáu. Does ganddo ef ddim hawl arnaf fi. 31Ond rhaid i’r byd gael gwybod fy mod i’n caru’r Tad ac yn gwneud yn union fel y mae ef wedi gorchymyn i mi.
“Codwch, gadewch i ni fynd oddi yma!”

Dewis Presennol:

Ioan 14: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda