Ioan 16
16
1“Rwyf wedi dweud hyn wrthych chi rhag i chi golli’ch ffydd. 2Fe gewch chi’ch taflu allan o’r synagogau; yn wir fe ddaw amser pan fydd pob un fydd yn eich lladd chi yn meddwl ei fod yn gwasanaethu Duw. 3Fe wnân nhw hyn am nad ydyn nhw yn nabod y Tad na mi. 4Rwyf yn eich rhybuddio o hyn fel pan ddigwydd, y byddwch chi’n cofio yr hyn a ddywedais i wrthych chi.”
Dyfodiad yr Ysbryd Glân
“Ddywedais i mo hyn wrthych chi o’r dechrau am fy mod i gyda chi, 5ond nawr rwy’n mynd at yr hwn a’m hanfonodd i, does yr un ohonoch chi yn gofyn i mi, ‘I ble rwyt ti’n mynd?’ 6Mae’r hyn rwy wedi’i ddweud wrthych chi wedi eich gwneud yn ddigalon hollol. 7Eto, rwy’n dweud y gwir wrthych chi: rwy’n eich gadael chi er eich lles eich hunain. Os nad af i, ddaw’r Cynorthwywr ddim atoch chi, ond os af i i ffwrdd, fe anfonaf fi ef atoch chi. 8A phan ddaw, fe ddengys yn eglur i’r byd mor anghywir oedd ei syniad am bechod, am yr hyn sy’n iawn, ac am farn. 9Roedd yn anghywir am bechod; mae hyn wedi ei brofi drwy i bobl wrthod credu ynof. 10Yn anghywir am yr hyn sy’n iawn; mae hyn wedi ei brofi drwy fy mod i yn mynd at y Tad, a welwch chi mohonof fi eto. 11Yn anghywir am farn; mae hyn wedi ei brofi oherwydd bod ysbryd drwg y byd hwn wedi cael ei farnu yn barod.
12“O! gymaint o bethau sydd gennyf i’w dweud wrthych eto, ond fedrwch chi mo’u dal nhw ar hyn o bryd. 13Ond pan ddaw Ysbryd y Gwirionedd ei hun, fe’ch arwain chi yn y gwirionedd i gyd. Fydd ef ddim yn siarad ohono’i hun chwaith, ond bydd yn dweud yr hyn a gaiff ei glywed: ac fe fynega wrthych chi am yr hyn sydd i ddod. 14Fe gaf fi glod gan hwn, oherwydd fe gymer o’r hyn sy’n eiddo i mi a’i fynegi wrthych chi. 15Mae popeth sy’n eiddo i’r Tad yn eiddo i mi, dyna pam y dywedais i, ‘Fe gymer o’r hyn sy’n eiddo i mi, a’i fynegi i chi’.”
Tristwch a llawenydd
16“Ymhen ychydig eto fyddwch chi ddim yn fy ngweld i, ac yna ymhen ychydig fe fyddwch yn fy ngweld.” 17Dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, “Beth mae ef yn ei feddwl wrth hyn, ‘Ymhen ychydig eto fyddwch chi ddim yn fy ngweld i, ac yna ymhen ychydig fe fyddwch chi yn fy ngweld i,’ ac wrth hyn, ‘oherwydd rwy’n mynd at y Tad’?” 18Medden nhw, “Beth mae’r ‘ymhen ychydig eto’ yn ei olygu? Dydyn ni ddim yn deall beth mae ef yn ei feddwl o gwbl.”
19Gwyddai’r Iesu eu bod am ei holi. Felly meddai wrthyn nhw: “Ai trafod hyn yr ydych gyda’ch gilydd fy mod i wedi dweud, ‘ymhen ychydig eto, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld, ac yna ymhen ychydig fe fyddwch chi yn fy ngweld?’ 20Mae’n berffaith wir, y byddwch chi’n wylo a galaru a’r byd yn gorfoleddu; fe fyddwch chi’n drist, ond fe dry eich tristwch yn orfoledd. 21Mae gwraig mewn poen ar eni ei phlentyn, oherwydd bod ei hamser hi wedi dod. Ond fe anghofia’i phoen wedi geni’r plentyn, yn ei llawenydd o ddod â baban i’r byd. 22Felly mae hi arnoch chi, rydych chi’n drist ar hyn o bryd, ond fe’ch gwelaf eto, ac fe fyddwch chi’n llawen iawn, a fedr neb ddwyn y llawenydd yma oddi arnoch chi. 23Pan ddaw’r diwrnod hwnnw, fyddwch chi ddim yn gofyn unrhyw gwestiwn i mi. Mae’n berffaith wir, fe gewch unrhyw beth gan y Tad os gofynnwch chi yn f’enw i. 24Hyd yn hyn dydych chi ddim wedi gofyn am ddim yn f’enw i. Gofynnwch, ac rydych chi’n siŵr o gael, fel y bydd eich llawenydd chi’n gyflawn.”
Gorchfygu’r byd
25“Hyd yn hyn, rwyf wedi siarad mewn damhegion — fe ddaw amser pan na fyddaf bellach yn defnyddio’r damhegion hyn, ond fe ddywedaf wrthych chi am y Tad mewn geiriau plaen. 26Pan ddaw’r diwrnod hwnnw, fe ofynnwch yn f’enw i, a fyddaf i ddim yn dweud wrthych chi y gweddïaf fi ar y Tad ar eich rhan chi; 27oherwydd am i chi fy ngharu i a chredu fy mod i wedi dod oddi wrth Dduw, mae’r Tad ei hun yn eich caru chi. 28Fe ddeuthum i oddi wrth y Tad a dod i’r byd, yn awr rwyf yn gadael y byd eto a mynd at y Tad.”
29Meddai’r disgyblion wrtho, “Yn awr rwyt ti’n siarad yn blaen, nid dull darluniadol ydy hyn. 30Yn awr fe wyddom dy fod yn gwybod popeth, a does dim rhaid i neb dy holi; mae hyn yn gwneud i ni gredu i ti ddod oddi wrth Dduw.”
31Atebodd yr Iesu nhw, “Ydych chi’n credu’n awr? 32Ond edrychwch yma, mae’r amser yn dod — yn wir mae wedi dod — pan gewch chi’ch gwasgaru, bob un i’w ffordd ei hun, a chaf innau fy ngadael fy hun. Ond nid yn unig chwaith, oherwydd mae’r Tad gyda mi. 33Rwyf wedi dweud hyn wrthych chi fel y medrwch chi gael tangnefedd ynof fi. Fe gewch chi amser caled yn y byd. Ond byddwch yn ddewr, rwyf i wedi gorchfygu’r byd.”
Dewis Presennol:
Ioan 16: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

: