Ioan 18
18
Bradychu a dal yr Iesu
1Wedi i’r Iesu ddweud y pethau hyn fe aeth gyda’i ddisgyblion dros nant Cidron. Roedd gardd yno, ac fe aeth ef a’i ddisgyblion iddi. 2Fe wyddai Jwdas, y bradwr, hefyd am y lle, oherwydd ei bod hi’n arfer gan yr Iesu gwrdd â’i ddisgyblion yno. 3Felly dyma Jwdas yn cymryd mintai o filwyr, a gweision oddi wrth y prif offeiriaid a’r Phariseaid, a mynd yno yn cario llusernau a ffaglau ac arfau. 4Gan fod yr Iesu’n gwybod y cyfan oedd yn mynd i ddigwydd iddo, fe aeth allan a gofyn iddyn nhw: “Am bwy rydych chi’n chwilio?”
5“Iesu o Nasareth,” oedd eu hateb.
“Fi yw ef,” meddai’r Iesu.
Roedd Jwdas, y bradwr, hefyd yn sefyll gyda nhw. 6Pan ddywedodd, ‘Fi yw ef,’ dyma nhw’n cilio’n ôl, a syrthio i’r llawr. 7Gofynnodd yr Iesu eto: “Am bwy rydych chi’n chwilio?”
“Iesu o Nasareth,” medden nhw.
8“Ond rydw i wedi dweud wrthych chi mai fi yw ef,” atebodd yr Iesu. “Os ydych chi’n chwilio amdanaf i, gadewch i’r rhain fynd.”
9(Roedd rhaid i’w eiriau ddod yn wir — ‘Chollais i’r un o’r rhai a roddaist ti i mi.’)
10Roedd gan Simon Pedr gleddyf; ac fe’i tynnodd a tharo gwas y Prif Offeiriad, gan dorri ei glust dde i ffwrdd. (Enw’r gwas oedd Malchus.) 11Meddai’r Iesu wrth Pedr: “Rho dy gleddyf yn ôl yn y wain. Wyt ti’n meddwl na wnaf i ddim yfed y cwpan a roddodd y Tad i mi?”
Yr Iesu o flaen y Prif Offeiriad a Phedr yn gwadu
12A dyma’r fintai o filwyr, a’r capten, a gweision yr Iddewon yn dal yr Iesu a’i rwymo, 13a mynd ag ef yn gyntaf at Annas, am ei fod yn dad-yng-nghyfraith i Gaiaffas, Prif Offeiriad y 14flwyddyn honno. Dyma’r Caiaffas a gynghorodd yr Iddewon fod yn well i un dyn farw dros y bobl.
15Fe ddilynwyd yr Iesu gan Simon Pedr a disgybl arall. Roedd y disgybl hwnnw yn adnabyddus i’r Prif Offeiriad; felly fe aeth i gyntedd y Prif Offeiriad gyda’r Iesu, 16ond fe safodd Pedr wrth y drws tu allan. Felly dyma’r disgybl arall a oedd yn adnabyddus i’r Prif Offeiriad yn mynd allan eto a siarad gyda’r eneth wrth y drws, a dod â Phedr i mewn.
17“Rwyt tithau hefyd,” meddai’r eneth wrth Bedr, “yn un o ddisgyblion y dyn yma, wyt ti ddim?”
“Na, dydw i ddim,” meddai Pedr.
18Roedd y gweision a’r swyddogion wedi gwneud tân golosg ac yn sefyll o’i gwmpas i gynhesu, oherwydd ei bod hi’n oer. Roedd Pedr hefyd yn sefyll gyda nhw ac yn ymgynhesu.
19Fe holodd y Prif Offeiriad yr Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei ddysgeidiaeth. 20Atebodd yr Iesu, “Rwyf fi wedi siarad yn gwbl agored wrth y byd; rwyf wedi arfer dysgu yn y synagogau, ac yn y Deml, lle mae’r Iddewon yn dod at ei gilydd. Ddywedais i ddim byd yn gyfrinachol erioed. 21Pam rwyt ti’n fy holi i? Gofyn i’r rhai a’m clywodd i, beth ddywedais i wrthyn nhw. Maen nhw’n gwybod beth a ddywedais i.”
22Pan ddywedodd ef hyn, rhoddodd un o’r gweision a oedd yn sefyll gerllaw, gernod i’r Iesu, ac meddai, “Ai dyma’r ffordd rwyt ti’n ateb y Prif Offeiriad?”
23Atebodd yr Iesu, “Os atebais i’n anghywir, rho dystiolaeth o hynny, ond os atebais yn gywir, pam rwyt ti’n fy nharo i?”
24Felly dyma Annas yn ei anfon at y Prif Offeiriad Caiaffas, wedi ei rwymo.
25Roedd Pedr o hyd yn dal i sefyll yn ymgynhesu. Dyma nhw’n gofyn iddo, “Wyt tithau ddim yn un o’i ddisgyblion?”
Ond gwadu a wnaeth Pedr, ac meddai, “Na, dydw i ddim.”
26Ond meddai un o weision y Prif Offeiriad, perthynas i hwnnw y torrodd Pedr ei glust, “Welais i mohonot ti yn yr ardd gydag ef?”
27Gwadu eto a wnaeth Pedr, ac ar hyn dyma geiliog yn canu.
Yr Iesu o flaen Peilat
28Yn gynnar yn y bore, cymerwyd yr Iesu o dŷ Caiaffas i blas y Llywodraethwr. Fe safodd yr Iddewon o’r tu allan rhag gwneud eu hunain yn amhur; roedden nhw am gymryd rhan yng Ngŵyl y Pasg. 29Felly dyma Peilat yn mynd allan atyn nhw a gofyn, “Beth yw’r cyhuddiad sydd gennych yn erbyn y dyn yma?”
30“Fyddem ni ddim wedi dod ag ef atat ti oni bai iddo droseddu,” oedd eu hateb.
31“Cymerwch chi ef a bernwch ef yn ôl eich Cyfraith eich hunain,” meddai Peilat.
“Ond does gyda ni ddim hawl i ddedfrydu dyn i farwolaeth,” meddai’r Iddewon, 32gan wireddu geiriau’r Iesu am y modd y byddai farw.
33Felly dyma Peilat yn mynd yn ôl i’r plas a galw am yr Iesu.
“Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” gofynnodd.
34Meddai’r Iesu, “Ai ohonot dy hun wyt ti’n dweud hyn, ynteu eraill sydd wedi’i awgrymu i ti?”
35“Beth?” atebodd Peilat, “wyt ti’n meddwl mai Iddew ydw i? Dy genedl dy hun a’i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo i mi. Beth wyt ti wedi ei wneud?”
36Atebodd yr Iesu, “Dyw fy nheyrnas i ddim â’i gwreiddiau yn y byd hwn. Pe bai ei gwreiddiau yn y byd hwn, mi fyddai fy ngweision wrthi’n ymladd rhag i mi gael fy rhoi yn nwylo’r Iddewon: na, nid teyrnas oddi yma yw fy un i.”
37“Brenin wyt ti, felly?” holodd Peilat.
Atebodd yr Iesu, “Ti sy’n dweud mai ‘Brenin’ ydwyf fi. I’r pwrpas hwn y cefais i fy ngeni ac y deuthum i’r byd — i dystiolaethu i’r gwirionedd; mae pawb sy’n perthyn i’r gwirionedd yn fy ngwrando i.”
38“Beth yw gwirionedd?” gofynnodd Peilat.
Dedfrydu’r Iesu i farw
Wedi dweud hyn aeth allan eto at yr Iddewon, ac meddai wrthyn nhw, “Welaf i ddim rheswm dros ei gondemnio: 39ond mae gyda chi arferiad i mi ollwng un carcharor yn rhydd ar yr Ŵyl. Hoffech chi i mi ollwng yn rhydd i chi Frenin yr Iddewon?”
40Ond dyna floeddio, “Na, nid hwn, ond Barabbas.” Lleidr oedd Barabbas.
Dewis Presennol:
Ioan 18: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971