Ioan 7
7
Yr Iesu a’i frodyr
1Wedi hyn, fe aeth yr Iesu o amgylch yng Ngalilea. Roedd ef am osgoi Jwdea, am fod yr Iddewon yn chwilio am gyfle i’w ladd. 2Gan fod un o wyliau’r Iddewon yn agosáu, Gŵyl y Pebyll, 3fe ddywedodd ei frodyr wrtho, “Mae’n bryd i ti adael y fan hon, a mynd i Jwdea, i’th ddisgyblion hefyd weld y gweithredoedd rwyt ti’n eu gwneud. 4Does neb yn cuddio’r hyn mae ef yn ei wneud yno os yw ef am ennill clust y bobl. Os wyt ti o ddifrif yn gwneud y pethau hyn, dangos dy hun yn amlwg i’r cyhoedd.” 5Ac yn wir, nid oedd ei frodyr hyd yn oed yn credu ynddo.
6Meddai’r Iesu wrthyn nhw, “Dyw’r amser iawn i mi ddim wedi dod eto, ond mae unrhyw adeg yn iawn i chi. 7All y byd mo’ch casáu chi. Myfi mae ef yn ei gasáu, am fy mod yn ei atgoffa’n barhaus am ei ffyrdd drygionus. 8Ewch chi i fyny i’r Ŵyl. Af fi ddim i fyny i’r Ŵyl ar hyn o bryd; ddaeth fy amser i ddim eto.” 9Wedi dweud hyn, fe arhosodd yng Ngalilea.
Yr Iesu yn yr Ŵyl
10Yn ddiweddarach, wedi i’w frodyr fynd i fyny i’r Ŵyl, fe aeth ef ei hun i fyny yn ddirgel, heb i nemor neb sylwi arno. 11Yn yr Ŵyl roedd yr Iddewon yn chwilio amdano, ac yn gofyn, “Ble mae ef?” 12Roedd yna lawer iawn o drin a thrafod yn ei gylch ymhlith y dorf.
“Mae ef yn ddyn da,” meddai rhai.
“Na,” meddai eraill, “mae ef yn camarwain y bobl.”
13Serch hynny, doedd neb yn barod i sôn amdano ar goedd rhag ofn yr Iddewon.
14Roedd yr Ŵyl ar ei hanner pan aeth yr Iesu i fyny i’r Deml, a dechrau dysgu. 15Roedd yr Iddewon yn synnu, ac medden nhw, “Sut mae gan hwn y fath wybodaeth, ac yntau heb gael addysg?”
16Atebodd yr Iesu, “Nid eiddof fi yw’r ddysgeidiaeth hon sydd gennyf fi, ond eiddo’r hwn sydd wedi f’anfon i. 17Os bydd rhywun yn fodlon gwneud yr hyn mae Duw’n ei ewyllysio, fe gaiff wybod a yw fy nysgeidiaeth i yn dod oddi wrtho ef, ai ynteu siarad ohonof fy hun yr wyf. 18Mae pwy bynnag sy’n siarad ohono’i hun am gael clod iddo’i hun. Ond pan fo rhywun yn ceisio clod i’r sawl sydd wedi ei anfon, yna mae’n ddidwyll, a does dim ffug ynddo.
19“Chawsoch chi mo’r Gyfraith gan Moses? Ond does yr un ohonoch chi’n ufuddhau iddi. Pam rydych chi am fy lladd i?”
20“Mae’r cythraul ynot. Pwy sydd am dy ladd di?” atebodd y dorf.
21Ac atebodd yr Iesu, “Unwaith yn unig y gwnes i weithred arbennig ar y Dydd Gorffwys, ac rydych chi oll yn synnu. 22Ond meddyliwch, rhoddodd Moses orchymyn i chi enwaedu (er nad Moses, ond eich hynafiaid a ddechreuodd y peth), felly fe fyddwch yn enwaedu ar y Dydd Gorffwys. 23Os ydych chi’n enwaedu ar rywun ar y Dydd Gorffwys, er mwyn peidio â thorri Cyfraith Moses, pam rydych chi’n ddig wrthyf fi am roi iechyd llawn i ddyn ar y Dydd Gorffwys? 24Peidiwch â barnu yn arwynebol ond ceisiwch fod yn gyfiawn wrth farnu.”
Ai’r Iesu yw’r Meseia?
25Ac meddai rhai o bobl Jerwsalem, “Onid hwn maen nhw’n ceisio’i ladd? 26A dyma yntau’n siarad ar goedd, a does ganddyn nhw ddim byd i’w ddweud wrtho. Tybed a yw’r arweinwyr wedi dod i gredu yn wir mai hwn yw’r Meseia? 27Ac eto rydym ni’n gwybod yn iawn o ble mae ef, ond am y Meseia — pan ddaw ef, fydd neb yn gwybod o ble y mae.”
28A dyma’r Iesu wrth ddysgu yn y Deml, yn gweiddi’n uchel: “Ydych, rydych yn fy nabod i, ac yn gwybod o ble rwyf fi. Ac eto, ddeuthum i ddim ohonof fy hun. Mae’r sawl a’m hanfonodd yn bod yn wir, ond dydych chi ddim yn ei nabod ef. 29Rwyf fi yn ei nabod am mai ohono ef rwyf fi, ac yntau wedi f’anfon i.”
30Fe fydden nhw wedi ei ddal yn y fan a’r lle, ond ddododd neb law arno, am nad oedd ei amser wedi dod eto. 31Er hynny, fe gredodd llawer o’r dorf ynddo, a dweud roedden nhw, “Pan ddaw’r Meseia, ydy hi’n debyg y gwna ef fwy o arwyddion na hwn?”
Swyddogion yn cael eu hanfon at Iesu
32Fe glywodd y Phariseaid y sibrwd hwn gan y bobl amdano, ac felly dyma nhw a’r prif offeiriaid yn anfon swyddogion y Deml i’w ddal. 33Meddai’r Iesu, “Fe fyddaf i gyda chi am dipyn (ychydig) eto, yna fe af i ffwrdd at yr hwn a’m hanfonodd i. 34Fe chwiliwch chi amdanaf fi, ond chewch chi ddim hyd imi, fedrwch chi ddim dod lle byddaf fi.”
35Ac meddai’r Iddewon wrth ei gilydd, “I ble mae ef yn meddwl mynd, fel na fedrwn ni gael gafael arno? Tybed a yw ef yn mynd at yr Iddewon ar wasgar sy’n byw ymhlith y Groegiaid, ac i ddysgu’r Groegiaid? 36Beth oedd ef yn ei feddwl wrth ddweud, ‘Fe chwiliwch chi amdanaf fi, ond chewch chi ddim hyd imi, a fedrwch chi ddim dod lle byddaf fi’?”
Y dŵr bywiol
37Ar y dydd olaf a’r un pwysicaf o’r ŵyl, fe safodd yr Iesu a dweud mewn llais uchel: “Os oes syched ar rywun deued ataf fi ac yfed. 38Y sawl sy’n credu ynof fi, fel mae’r Ysgrythur yn dweud, ‘Fe ddaw afonydd allan ohono, yn ffrydiau o ddŵr bywiol’.”
39Roedd ef yn siarad am yr Ysbryd a dderbyniai’r rhai a gredai ynddo maes o law; ni roddwyd yr Ysbryd hyd yn hyn, oherwydd nid oedd yr Iesu wedi’i ogoneddu eto.
Y bobl yn ymrannu
40Wrth glywed hyn dywedodd rhai o’r bobl, “Mae’n rhaid mai hwn yw’r proffwyd.” 41Meddai eraill, “Hwn yw’r Meseia.” Ac meddai eraill, “Does bosibl y daw’r Meseia o Galilea? 42Onid yw’r Ysgrythur yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu Dafydd, ac o Fethlehem, pentref Dafydd?”
43Fe barodd hyn i’r dyrfa ymrannu o’i achos ef. 44Roedd rhai ohonyn nhw am ei ddal, ond ni chyffyrddodd neb ag ef.
Yr awdurdodau’n gwrthod credu
45Yna fe ddaeth swyddogion y Deml yn ôl at y prif offeiriaid a’r Phariseaid. Fe ofynson nhw i’r swyddogion, “Pam na ddaethoch chi ag ef?” 46A’u hateb oedd, “Does dim un dyn erioed wedi siarad fel hwn.” 47Ac meddai’r Phariseaid, “Gawsoch chithau hefyd eich camarwain? 48Oes cymaint ag un o’r rheolwyr neu o’r Phariseaid wedi credu ynddo? 49Ac am y boblach hyn, sy heb wybod y Gyfraith, maen nhw wedi’u melltithio.” 50Yna meddai Nicodemus — yr un a fu’n ymweld â’r Iesu o’r blaen — ac yntau’n un o’r Phariseaid, 51“Dyw ein Cyfraith ni ddim yn caniatáu i ni roi dedfryd ar ddyn heb yn gyntaf roi cyfle iddo i’w amddiffyn ei hun, a chael gwybod beth a wnaeth ef, ydy hi?”
52“Dwyt tithau chwaith ddim o Galilea, wyt ti?” oedd eu hateb.
“Astudia d’Ysgrythur ac fe weli di nad yw proffwydi’n codi o Galilea.”
Dewis Presennol:
Ioan 7: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971