Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 9

9
Yr Iesu’n rhoi golwg i’r dall
1Wrth fynd yn ei flaen fe welodd yr Iesu ddyn dall o’i enedigaeth. 2“Athro,” gofynnodd ei ddisgyblion, “pwy a wnaeth ddrwg fel y bo hwn yn cael ei eni yn ddall, ef ei hun neu ei rieni?”
3Ateb yr Iesu oedd, “Nid ar y dyn hwn na’i rieni roedd y bai, ond fe gafodd ei eni’n ddall er mwyn dangos gallu Duw yn ei wella. 4Rhaid i mi fod yn ddyfal wrth waith yr Un a’m hanfonodd i tra bo hi’n ddydd: fe ddaw nos, pryd na all neb weithio. 5Tra rwyf i yn y byd rwyf yn oleuni iddo.”
6Wedi dweud hyn, fe boerodd ar y llawr a gwneud clai o’r poeryn: fe irodd y clai ar lygaid y dyn, 7a dweud wrtho, “Dos, ymolch yn Llyn Siloam.” (Golyga’r enw ‘Anfonedig’.) Aeth y dyn ymaith ac ymolchi, a daeth yn ôl yn gweld.
8Ac meddai’i gymdogion a’r rhai oedd wedi’i weld yn cardota, “Onid hwn oedd yn arfer eistedd i gardota?”
9Ac meddai rhai ohonyn nhw, “Ie, hwn yw ef.”
“Na,” meddai’r lleill, “rhywun tebyg yw ef.”
Meddai’r dyn ei hun, “Ie, fi yw ef.”
10“Sut y cefaist ti dy olwg?” medden nhw.
11Atebodd yntau, “Dyn o’r enw Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid, a dweud wrthyf, ‘Dos i Siloam, ac ymolch.’ Fe euthum i ac ymolchi, a chael fy ngolwg.”
12“Ble mae ef?” gofynson nhw.
“Wn i ddim,” atebodd yntau.
Y Phariseaid a’r iachâd
13Felly dyma fynd â’r dyn a fu gynt yn ddall at y Phariseaid. 14Yn wir, y Dydd Gorffwys oedd hi pan wnaeth yr Iesu’r clai ac agor ei lygaid ef. 15A dyma’r Phariseaid nhwythau yn gofyn sut y cafodd ei olwg. Ac meddai wrthyn nhw, “Fe roddodd glai ar fy llygaid, ac fe ymolchais, a nawr rydw i’n gweld.”
16Meddai rhai o’r Phariseaid, “Dyw’r person hwn ddim oddi wrth Dduw, dyw ef ddim yn cadw’r Dydd Gorffwys.”
Meddai eraill, “Sut medr dyn drwg wneud arwyddion fel hyn?” Ac roedd anghytundeb yn eu plith.
17A dyma nhw’n gofyn unwaith eto i’r dyn fu’n ddall, “Beth yw dy farn di amdano, gan iddo roi dy olwg i ti?”
“Mae ef yn broffwyd,” atebodd yntau.
18Gan hynny doedd yr Iddewon ddim yn fodlon credu ei fod wedi bod yn ddall ac iddo gael ei olwg, nes iddyn nhw alw ar ei rieni, 19a gofyn iddyn nhw, “Ai eich mab chi yw hwn? Gafodd ef ei eni’n ddall? Sut mae ef yn gallu gweld nawr?”
20Atebodd ei rieni, “Fe wyddom ni mai ein mab ni yw ef, 21ac iddo gael ei eni’n ddall: sut mae ef yn gweld nawr, wyddom ni ddim, na phwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo, mae ef yn ddigon hen i ateb drosto’i hun.”
22Ofn yr Iddewon a wnaeth i’r rhieni ateb fel hyn: roedd yr Iddewon wedi cytuno eisoes fod unrhyw un a gydnabyddai’r Iesu’n Feseia i gael ei dorri allan o’r synagog. 23Dyna pam y dywedson nhw, “Mae e’n ddigon hen i ateb drosto’i hun, gofynnwch iddo ef.”
24Felly am yr ail waith dyma alw’r dyn fu’n ddall a dweud, “Dywed y gwir ger bron Duw. Fe wyddom ni mai dyn drwg yw hwn.”
25“P’run ai dyn drwg yw ef ai peidio, wn i ddim,” atebodd y dyn, “un peth a wn i, lle’r oeddwn i’n ddall, rwyf yn gweld yn awr.”
26“Wel, beth wnaeth ef i ti?” gofynson nhw. “Sut rhoddodd ef dy olwg i ti?”
27“Rwyf i wedi dweud wrthych chi’n barod,” oedd ei ateb, “ond wrandawsoch chi ddim. Pam mae eisiau clywed hyn eto arnoch chi? Ydych chithau’n awyddus i fod yn ddisgyblion iddo, ydych chi?”
28Dyma nhw wedyn yn ei ddilorni a dweud, “Ti sy’n ddisgybl iddo, disgyblion i Foses ydym ni. 29Fe wyddom ni fod Duw wedi siarad â Moses, ond am hwn, wyddom ni ddim o ble mae’n dod.”
30Atebodd y dyn, “Wel dyma beth rhyfedd! Dyma ddyn wedi agor fy llygaid, a chithau heb wybod o ble y daeth ef. 31Fe wyddom ni’n iawn nad yw Duw’n gwrando ar ddynion drwg, ond ei fod yn gwrando ar y rhai sy’n ei barchu a 32gwneud ei ewyllys. Chlywodd neb erioed am neb a fedrodd 33agor llygaid un a gafodd ei eni’n ddall. Allai hwn wneud dim chwaith oni bai ei fod wedi dod oddi wrth Dduw.”
34“Pwy wyt ti i’n dysgu ni?” medden nhw. “Ti sydd wedi dy eni a’th fagu mewn drygioni?”
A dyma’i yrru i ffwrdd.
35Fe glywodd yr Iesu iddyn nhw ei yrru i ffwrdd, ac meddai wrtho, pan gafodd hyd iddo, “Wyt ti’n credu ym Mab y Dyn?”
36“Pwy yw ef, Syr, er mwyn imi gredu ynddo?” gofynnodd.
37Ac meddai’r Iesu wrtho, “Rwyt ti wedi’i weld ef; yn wir, mae ef yn siarad â thi nawr.”
38“Arglwydd, rwyf yn credu,” meddai yntau, gan blygu ger ei fron.
39Meddai’r Iesu, “Fe ddeuthum i i’r byd i farnu, i wneud i’r dall weld, a gwneud y sawl sy’n gweld yn ddall.”
40Fe glywodd rhai o’r Phariseaid oedd gydag ef hyn, ac medden nhw, “Wyt ti’n awgrymu ein bod ninnau’n ddall?”
41“Pe baech chi’n ddall,” meddai’r Iesu, “yna fyddech chi ddim yn euog, ond gan eich bod chi’n dweud, ‘Rydym ni’n gweld,’ mae eich pechod yn aros.”

Dewis Presennol:

Ioan 9: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda